Reginald James Blewitt
Roedd Reginald James Blewitt (26 Mai 1799 - 11 Medi 1878) yn feistr haearn, yn newyddiadurwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy o 1837 hyd 1852.
Reginald James Blewitt | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mai 1799 Marylebone |
Bu farw | 11 Medi 1878 Roehampton |
Man preswyl | Abaty Llantarnam |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, perchennog papur newydd, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Cefndir
golyguGanwyd Blewitt yn Marylebone, Llundain yn fab i'r Uwch gapten Edward Blewitt a Amelia (née Durberley) ei wraig[1]. Roedd teulu ei dad yn disgyn oddi wrth deulu dylanwadol Morgan, Tŷ Tredegar, Casnewydd.
Cafodd ei addysgu yn Rugby.
Priododd Matilda Medex ym 1800.
Gyrfa
golyguYm 1816 dechreuodd prentisiaeth i ddyfod yn gyfreithiwr yng nghwmni William Ford Stevenson, Llundain, bu hefyd am gyfnod yn astudio i fod yn fargyfreithiwr yn Lincoln's Inn ond ni chafodd ei alw i'r bar. Ymddeolodd o fyd y gyfraith ym 1827 [2] wedi ysgrifennu cerdd ddychanol am ymarferion llwgr y Llys Sianseri [3].
Ym 1829 sefydlodd papur newyddion The Monmouthshire Merlin, gan weithio fel ei olygydd am gyfnod o 3 mlynedd.
Bu'n is lywodraethwr a Rheolwr Gyfarwyddwr y Monmouthshire and Glamorganshire Banking Company ac yn berchennog gwaith haearn Cwmbrân
Gyrfa Wleidyddol
golyguSafodd Blewitt yn enw'r Blaid Ryddfrydol yn etholiad cyffredinol 1837 yn etholaeth Bwrdeistrefi Sir Fynwy gan lwyddo i gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Geidwadol; daliodd ei afael ar y sedd hyd 1851 gan orfod ildio oherwydd trafferthion ariannol[4].
Marwolaeth
golyguBu farw yn ysbyty meddwl The Priory, Llundain yn 79 mlwydd oed[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ London Metropolitan Archives, St Marylebone, Westminster, Day book of baptisms, July 1798-May 1803, P89/MRY1/083
- ↑ "DEATH OF AN EX MP FOR THE MONMOUTH BOROUGHS - The Western Mail". Abel Nadin. 1878-09-28. Cyrchwyd 2015-12-01.
- ↑ "Notitle - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1837-07-15. Cyrchwyd 2015-12-01.
- ↑ Archif Genedlaethol y DU Reginald James Blewitt Deed of arrangement for settlement of debts [1] Archifwyd 2020-10-21 yn y Peiriant Wayback adalwyd 1 Rhag 2015
- ↑ Archif Genedlaethol y DU; Lunacy Patients Admission Registers; Dosbarth: MH 94; Darn: 5 Tudalen:26
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Benjamin Hall |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy 1837 – 1852 |
Olynydd: Crawshay Bailey |