Benjamin Hall
Roedd Benjamin Hall, Barwn Cyntaf Llanofer (8 Tachwedd 1802 – 27 Ebrill 1867) yn berchennog gweithiau haearn ac yn wleidydd Rhyddfrydol; mae'n fwyaf enwog fel y Ben yn enw Big Ben, y gloch yn Nhŵr San Steffan ('Tŵr Elisabeth' heddiw) ac am frwydro dros yr hawl i wasanaethau Cymraeg a hawliau'r gweithwyr.
Benjamin Hall | |
---|---|
Ganwyd | 8 Tachwedd 1802 Llundain |
Bu farw | 27 Ebrill 1867 Westminster |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, peiriannydd sifil, peiriannydd, gwleidydd |
Swydd | Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Prif Gomisiynydd Gweithfeydd, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
Priod | Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer |
Gwasanaethodd fel Aelod seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy o 28 Tachwedd 1832 hyd 1837[1][2].
Bywyd Personol
golyguGanwyd Hall yn Llundain yn fab i Benjamin Hall (1778-1817), AS a meistr haearn, Castell Hensol a Charlotte merch Richard Crawshay, Cyfarthfa.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster, aeth yn fyfyriwr i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, ym 1820 gan ymadael heb sefyll gradd.
Ym 1823 priododd Augusta Waddington, merch a chyd etifedd Benjamin Waddington, Llanofer; bu iddynt dau fab a merch. Dim ond un o'r plant bu fyw'n oedolyn, sef Augusta fe briododd hi ag Arthur Jones, Llanarth, eu mab hwy oedd Ivor Herbert, Barwn 1af Treowen.
Gyrfa wleidyddol
golyguAS Mynwy
golyguEtholwyd Hall yn aelod seneddol dros Bwrdeistrefi Mynwy ym mis Mai 1831, ond cafodd ei etholiad ei ddiddymu ar ddeiseb ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn. Cafodd ei ethol dros yr un etholaeth ym mis Rhagfyr 1832.[3]
Yn y cyfnod hwn bu'n ymgyrchu dros basio'r Ddeddf er Gwahardd Trwco, (1831) a oedd yn ei wneud yn anghyfreithiol i gyflogwyr mynnu bod eu gweithwyr yn gwario eu cyflogau mewn siopau'r cwmni. Bu'n ymgyrchu yn erbyn cam-drin treuliau etholiad seneddol. Bu'n hyrwyddo hawl pobl Cymru i gael gwasanaethau crefyddol yn y Gymraeg ac yn dadlau gyda'r esgobion ar gyflwr yr eglwys Anglicanaidd yng Nghymru
AS Marylebone
golyguYn Etholiad Cyffredinol 1837 penderfynodd Hall i beidio amddiffyn ei sedd ym Mynwy ond i geisio am un o ddwy sedd etholaeth Marylebone yn Llundain. Llwyddodd dod i frig y pôl fel cynrychiolydd y Rhyddfrydwyr gan gadw ei sedd hyd ei ddyrchafiad i'r bendefigaeth ym 1859. Er ei fod yn cynrychioli sedd yn Lloegr parhaodd i frwydro dros achosion Cymreig yn arbennig achos crefyddol Cymru a'r llygredigaeth oedd yn bodoli wrth reoli eiddo'r Eglwys, didoli swyddi eglwysig a rhannu nawddogaeth eglwysig.[4]
Ym 1838 urddwyd Hall yn farwnig am ei wasanaeth cyhoeddus.
Ym 1854 fe'i penodwyd yn llywydd y Bwrdd Cyffredinol dros Iechyd ac fei derbyniwyd i'r Cyfrin Gyngor. Ym 1854 fe'i gwnaed yn Brif Comisiynydd Gweithfeydd gan ddal y swydd hyd gwymp llywodraeth Palmerston. Ym 1855 llywiodd deddf drwy'r tŷ a arweiniodd at wella sylweddol yn adnoddau parciau Llundain; bu hefyd yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o ailadeiladu Palas San Steffan wedi iddi gael ei ddifrodi gan dân yn y 1830au. Fel rhan o'r gwaith i ailadeiladu'r Palas bu Hall yn gyfrifol am gomisiynu'r gloch ar gyfer y tŵr gogleddol a lysenwyd yn "Big Ben" ar ei ôl.
Arglwydd Llanofer
golyguPan ddychwelodd Palmerston i'r Brif Weinidogaeth ym 1859 dyrchafodd Hall i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Llanofer o Lanofer ac Abercarn yn Sir Fynwy, ond ni fu yn aelod gweithgar o'r Tŷ.
Ym 1826 gwasanaethodd Hall fel Uchel Siryf Sir Fynwy ac o 1861 i 1867 bu'n Arglwydd Raglaw Sir Fynwy.
Marwolaeth
golyguBu farw'r Arglwydd Llanofer yn ei gartref yn Llundain o gymhlethdodau a achoswyd pan adlamodd carn dryll i ochr ei foch[5]; roedd yn 64 mlwydd oed. Gan fod ei feibion wedi marw o'i flaen bu farw'r farwnigaeth a'r farwniaeth gydag ef. Rhoddwyd ei weddillion i orffwys yn Eglwys Llanofer.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ G. F. R. Barker, ‘Hall, Benjamin, Baron Llanover (1802–1867)’, rev. H. C. G. Matthew, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2012 adalwyd 20 Rhag 2015
- ↑ Y Bywgraffiadur HALL , BENJAMIN ( 1802 - 1867 ), Arglwydd Llanover [1] adalwyd 20 Rhagfyr 2015
- ↑ History of Parliament on line HALL, Benjamin (1802-1867), of Abercarn and Llanofer Court, Mon. [2] adalwyd 20 Rhagfyr 2015
- ↑ "DEATH OF LORD LLANOVER - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1867-05-04. Cyrchwyd 2015-12-20.
- ↑ "LORD LLANOVER - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1867-02-02. Cyrchwyd 2015-12-20.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Henry Somerset |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy 1831 – 1831 |
Olynydd: Henry Somerset |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Henry Somerset |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy 1832 – 1837 |
Olynydd: Reginald James Blewitt |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Syr Henry Bulwer |
Aelod Seneddol Marylebone 1837 – 1859 |
Olynydd: Edwin James |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: Newydd |
Barwnig Llanofer 1838 1867 |
Olynydd: Dim Etifedd |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: Newydd |
Barwn Llanofer 1859 1867 |
Olynydd: Dim Etifedd |
Teitlau Anrhydeddus | ||
Rhagflaenydd: Capel Hanbury Leigh |
Arglwydd Raglaw Sir Fynwy 1861 - 1867 |
Olynydd: Dug Beaufort |