Reginald William Phillips
llysieuegwr Cymreig
Naturiaethwr a gwyddonydd o Gymru oedd yr Athro Reginald William Phillips (1854 – 1926).
Reginald William Phillips | |
---|---|
Ganwyd | 15 Hydref 1854 |
Bu farw | 2 Rhagfyr 1926 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | botanegydd, athro cadeiriol |
Hanes
golyguGanwyd yn Nhalgarth ym Mrycheiniog yn 1854. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Normal, Bangor. Ar ôl bod yn dysgu yn y Coleg am gyfnod symudodd i Gaergrawnt i astudio’r Gwyddorau Naturiol. Fe enillodd ysgoloriaeth a graddiodd yn y dosbarth cyntaf. Yn 1884 sefydlwyd Coleg y Gogledd ym Mangor ac mi gafodd swydd darlithydd bioleg yno. Penodwyd i gadair athro pedair blynedd yn ddiweddarach. Yn 1894 sefydlwyd cadair botaneg yn y coleg a Phillips oedd y cyntaf i’w dal.
Cafodd radd D.Sc Llundain am draethawd ar wymon.[1] Cafodd ei ethol yn Gymrawd o’r Gymdeithas Linneaidd.[2]
Bu farw yn 1926.