Reinhold Messner
Mae Reinhold Andreas Messner (ganed 17 Medi 1944) yn fynyddwr Eidalaidd sy'n cael ei ystyried yn fynyddwr mwyaf llwyddiannus ei genhedlaeth.
Reinhold Messner | |
---|---|
Ganwyd | Reinhold Andreas Messner 17 Medi 1944 Brixen |
Dinasyddiaeth | yr Eidal |
Galwedigaeth | fforiwr, gwleidydd, llenor, dringwr mynyddoedd, cyfarwyddwr ffilm |
Swydd | Aelod Senedd Ewrop |
Plaid Wleidyddol | Federation of the Greens |
Tad | Josef Messner |
Mam | Maria Messner |
Priod | Uschi Demeter, Sabine Stehle, Diane Schumacher |
Partner | Sabine Stehle, Nena Holguin |
Plant | Magdalena Messner, Simon Messner, Anna Juditha Messner, Làyla Messner |
Gwobr/au | Medal y Noddwr, Gwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Gwobr Romy, Courage Award, Lifetime Piolet d'Or, Gwobr Bambi |
Gwefan | https://reinhold-messner.de/ |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Ganed Messner yn Villnöß-Funes yn Ne Tirol yn yr Eidal; er ei fod yn Eidalwr, Almaeneg yw ei iaith gyntaf. Ef oedd y person cyntaf i ddringo bob copa dros 8,000 medr. Diweddodd ei ymgais gyntaf ar un o'r copaon hyn mewn trasiedi. Cyrhaeddodd ef a'i frawd Gunther gopa Nanga Parbat, ond lladdwyd Gunther ar y ffordd i lawr. Collodd Reinhold ei hun saith o fodiau ei draed a thri bys.
Gyda Peter Habeler, ef oedd y cyntaf i ddringo Mynydd Everest heb ddefnyddio ocsigen yn 1978, rhywbeth yr oedd llawer o ddringwyr yn ei ystyried yn amhosibl. Yr un flwyddyn dringodd Nanga Parbat ar ei ben ei hun a heb ocsigen. Yn 1980 ef oedd y cyntaf i ddringo Everest ar ei ben ei hun, eto heb ocsigen.
Rhwng 1999 a 2004 bu'n aelod o'r Senedd Ewropeaidd dros Blaid Werdd yr Eidal.
Y copaon dros 8,000 medr
golygu- Nanga Parbat (8125 m) - 1970.
- Manaslu (8156 m) - 1972
- Gasherbrum I (8068 m) - 1975 - Gyda Peter Habeler.
- Mynydd Everest (8848 m) - 1978 - Gyda Habeler, y tro cyntaf heb ocsigen.
- Nanga Parbat (8125 m) - 1978 - Ar ei ben ei hyn a heb ocsigen.
- K2 (8611 m) - 1979 - Gyda A. Gogna.
- Everest - 1980 - Ar ei ben ei hyn a heb ocsigen.
- Shisha Pangma (8046 m) - 1981 - Gyda Friedl Mutschlechner.
- Kangchenjunga (8598 m) - 1982 - Gyda Mutschlechner a Dorje, heb ocsigen.
- Gasherbrum II (8035 m) - 1982 - Gyda N. Sabir a Sher Kan.
- Broad Peak (8048m) - 1982
- Cho Oyu (8153 m) - 1983 - Gyda Kammerlander a Dacher.
- Dhaulagiri (8167 m) - 1985
- Annapurna (8091 m) - 1985
- Makalu (8451 m) - 1986
- Lhotse (8511 m) - 1986