Reliques of Ancient English Poetry
Blodeugerdd Saesneg yw'r Reliques of Ancient English Poetry (y cyfeirir ato hefyd fel Reliques of Ancient Poetry neu Percy's Reliques), sy'n gasgliad o faledi a chaneuon poblogaidd gan yr Esgob Thomas Percy a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1765. Roedd yn llyfr dylanwadol a ysbrydolodd y beirdd a llenorion Rhamantaidd, yn cynnwys Syr Walter Scott, ac a hybodd y diddordeb cynyddol mewn llenyddiaeth frodorol gynnar sy'n un o nodweddion ail hanner y 18g yng ngwledydd Prydain.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Thomas Percy |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1765, 1867 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Cymru
golyguBu Percy'n cyfathrebu ag ysgolheigion Cymraeg fel Evan Evans (Ieuan Fardd) ac eraill o gylch Morysiaid Môn. Mae'n cydnabod ei ddyled i'w "gyfaill dysgedig yng Nghymru" (sef Ieuan Fardd) yn nhrydedd gyfrol y Reliques.[1] Cyhoeddwyd y Reliques flwyddyn ar ôl i Ieuan Fardd ei hun gyhoeddi'r gyfrol Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Reliques of Ancient English Poetry. Adargraffiad o'r 3ydd argraffiad, gyda nodiadau. Caeredin, 1869. Cyfrol 3, tt. 167, 286.