Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards

Llyfr ar farddoniaeth y Gogynfeirdd a'r Cynfeirdd gan yr ysgolhaig amryddawn Evan Evans (Ieuan Fardd) a gyhoeddywd ym 1764 yw Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards. Fe'i rhennir yn dair rhan. Roedd y rhan gyntaf yn cynnwys cyfieithiadau i'r Saesneg o rai o gerddi'r Gogynfeirdd (Beirdd y Tywysogion), yr ail ran yn draethawd Lladin ddeallus ar y canu Cymraeg cynnar, sy'n cynnwys deg pennill o'r Gododdin (y tro cyntaf i ran o destun y gerdd honno gael ei hargraffu), ac yn y rhan olaf ceir testunau gwreiddiol Cymraeg Canol y cerddi a gyfieithwyd i'r Saesneg yn y rhan gyntaf.[1]

Disgrifiad

golygu

Teitl llawn y llyfr yw:

Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards. Translated into English, with Explanatory Notes on the Historical Passages, and a short Account of Men and Places mentioned by the Bards, in order to give the curious some Idea of the Taste and Sentiments of our Ancestors, and their Manner of Writing.[2]

Cafodd ei gyhoeddi gan R. a J. Dobsley yn Pall-Mall, Llundain.

Llyfr mewn tair iaith ydyw'r Specimens felly. Roedd yn rhan o ymdrech Cylch y Morrisiaid i gyhoeddi testunau clasurol Cymraeg a hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r gyfrol yn ymateb hefyd i'r ffasiwn yn Lloegr yn ail hanner y 18g am waith Ossian. Cyhoeddodd James Macpherson "gyfieithiadau" o gerddi Gaeleg honedig hynafol ac yn ei ragymadrodd i'r llyfr mae'n mynegi'r farn nad oedd unrhyw beth tebyg i'w cael yn y Gymraeg ac yn amau yn wir fod unrhyw lenyddiaeth o werth o gwbl i'w cael yn yr iaith. Un o fwriadau Evan Evans wrth gyhoeddi'r gwaith felly oedd dangos i'r byd fod gan y Gymraeg lenyddiaeth hynafol a haeddai ei lle ymhlith llenyddiaethau mawr y byd (drwgdybiai Evans a'r Morysiaid hefyd fod gwaith Macpherson yn dwyll). Yn ei ragymadrodd meddai'r golygydd mai ei amcan yw "dangos ansawdd ein Prydyddiaeth i wyr cywraint, dysgedig, anghyfiaith."[3] Yn ogystal â'r farchnad yn Lloegr, anelwyd y llyfr at y dosbarth breiniol yng Nghymru yn y gobaith o ennyn diddordeb bonheddwyr Cymru - a llawer ohonynt wedi'u Seisnigeiddio - a'u cael i noddi gweithiau eraill yn y dyfodol.

Mae'r traethawd Lladin sy'n llenwi canol y llyfr yn gampwaith o ysgolheictod am ei gyfnod, cymaint felly fel y cyfeirir at y gyfrol gyfan weithiau dan enw'r adran honno, sef De Bardis Dissertatio.

Dyma oedd barn Thomas Parry am y llyfr:

Dyma gynnyrch gwir ysgolhaig, gŵr sydd yn ddigon onest i gyfaddef pan na fedr ddeall darn o hen farddoniaeth, a gadael lle gwag yn ei gyfieithiad. Y tu ôl i'r llyfr hwn yr oedd blynyddoedd o waith hir a chaled i ymgyfarwyddo â chynnwys y llawysgrifau, ac yn y cyfnod hwnnw nid bychan o lafur oedd cael gafael arnynt.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Thomas Parry, Hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944), tud. 217.
  2. Gwilym Lleyn, Llyfryddiaeth y Cymry (Llanidloes, 1869), tud. 477.
  3. Gwilym Lleyn, Llyfryddiaeth y Cymry, tud. 477.
  • Aneirin Lewis, Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis, gol. W. Alun Mathias ac E. Wyn James (Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992)
  • Gwilym Lleyn, Llyfryddiaeth y Cymry (Llanidloes, 1869)
  • Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Llandybie, 1981)

Gweler hefyd

golygu