Thomas Percy

esgob Anglicanaidd Gwyddelig (1729-1811)

Clerigwr Anglicanaidd, awdur a hynafiaethydd o Loegr oedd Thomas Percy (13 Ebrill 172930 Medi 1811), Esgob Dromore. Roedd yn frodor o Bridgnorth, Swydd Amwythig. Cyn cael cael ei benodi yn esgob bu'n gaplan i Siôr III. Cofir Percy yn bennaf am ei gyfrol ddylanwadol Reliques of Ancient English Poetry (1765), casgliad o faledi o Loegr a Gororau'r Alban a chafodd ddylanwad mawr ar y mudiad Rhamantaidd ac a fu'n gyfrifol am adfer y faled fel ffurf lenyddol yn Lloegr.

Thomas Percy
Ganwyd13 Ebrill 1729 Edit this on Wikidata
Bridgnorth Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 1811 Edit this on Wikidata
Dromore Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, gwerthwr hen greiriau, offeiriad, llenor, cerddolegydd, cyfieithydd, casglwr Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
TadArthur Lowe Percy Edit this on Wikidata
PriodAnne Gutteridge Edit this on Wikidata
PlantElizabeth Percy, Barbara Percy Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Percy (gwahaniaethu).

Hynafiaethydd a llenor

golygu

Cyhoeddodd Percy sawl cyfieithiad o weithiau hynafol, yn cynnwys cerddi Islandig a fersiwn o Ganiad Solomon. Cyhoeddodd gyfres o erthyglau am lenyddiaeth Tsieinëeg hefyd.

Roedd yn ffigwr cyfarwydd yng nghylchoedd llenyddol Lloegr, yn adnabod Samuel Johnson, Thomas Warton, a James Boswell. Bu'n cyfathrebu gyda aelodau o Gylch y Morisiaid hefyd, yn cynnwys Evan Evans (Ieuan Fardd).

Ymddengys fod Percy wedi cael ei ysbrydoli gan lwyddiant cerddi "Ossian" gan James MacPherson. Cafodd hyd i'r baledi mewn hen lawysgrif roedd morwyn yn nhŷ un o'i gyfeillion am losgi yn y tân. Diwygiodd rhai o'r cerddi a chyhoeddi'r gwaith yn 1765. Daeth yn gyfrol boblogaidd iawn a aeth trwy sawl argraffiad. Cafodd ddylanwad yng Nghymru hefyd: dyma'r fath o ddiddordeb mewn hynafiaethau yn y 18g yn Lloegr a symbolodd golygyddion y Myvyrian Archaiology of Wales i fynd ati i gyhoeddi'r gyfrol honno ar ddechrau'r 19g, yn rhannol er mwyn profi i'r byd fod gan Gymru hefyd lenyddiaeth hynafol a chyfoethog.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu