Reslo Cernyw
Enghraifft o'r canlynolchwaraeon Edit this on Wikidata
Mathymaflyd codwm Edit this on Wikidata
GwladBaner Cernyw Cernyw
GwladwriaethCernyw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math arbennig o ymgodymu yw reslo Cernyw (Cernyweg: Omdowl Kernewek[1]); daeth i'r amlwg yng Nghernyw sawl canrif yn ôl.[2] Mae'n debyg i arddull reslo Llydewig Gouren.Yn Saesneg, fe'i gelwir ar lafar yn "wrasslin'"[3][4]; cyfeiria Chaucer,[5] Shakespeare [6] a Drayton at y math hwn o ymgodymu.[7]

Gelwir y reffari yn 'sticler'.[8][9]

Mae reslo Cernyw yn un o gampau cenedlaethol Cernyw, sy'n prysur ymledu drwy Ynysoedd Prydain a'r Unol Daleithiau, Awstralia, Mecsico, Seland Newydd a De Affrica.

Cyflwyniad i reolau'r gamp

golygu

Amcan reslo Cernyweg yw taflu'r gwrthwynebydd a pheri iddyn nhw lanio mor wastad â phosib ar y cefn. Mae pob un o'r reslwyr yn gwisgo 'siaced' o wneuthuriad a defnydd caled, sy'n eu galluogi i afael yn yn eu gwrthwynebydd. Gwaherddir cydio yn yr arddyrnau neu fysedd yn ogystal â dal o dan y canol. Caniateir gafael yn y siaced yn unig, er y caniateir defnyddio cledr y llaw i wthio neu atal gwrthwynebydd.[10][11] Mae tri sticler yn gwylio ac yn rheoli pob gornest, ac yn cadw'r sgôr.[12]

Ceir pedwar pin wedi'u lleoli ar gefn pob reslwr, dau wrth yr ysgwyddau a dau ychydig uwchben y pen-ôl. Mae reslwr yn sgorio pwyntiau trwy daflu ei wrthwynebydd ar ei gefn, a nifer y pinnau sy'n taro'r llawr yw nifer y pwyntiau a sgoriwyd. Os yw reslwr yn llwyddo i sgorio gyda thri neu bedwar pin gelwir hyn yn 'Gefn' ac yna mae'r rownd honno'n dod i ben, gyda'r reslwr a oedd yn taflu yn enillydd.[13] Mae pob un o'r sticleri'n codi eu ffyn pan fyddant yn gweld bod Cefn wedi'i gyflawni. Gellir dyfarnu Cefn trwy fwyafrif, hy trwy ddau o'r tri sticler. Os na fydd Cefn yn cael ei ddyfarnu, yr enillydd yw'r reslwr gyda'r mwyaf o bwyntiau cronedig o fewn hyn-a-hyn o amser.[12]

 
John Cawley yn taflu Chris French mewn Arddangosfa yn Amgueddfa Robby Richards ym Mai 2006.

Mae hanes hir i reslo Cernyw, gyda Sieffre o Fynwy yn Historia Regum Britanniae (c. 1139) yn disgrifio Corineus, sylfaenydd chwedlonol Cernyw, fel dyn "o ddewrder a hyfdra mawr, a fyddai, mewn cyfarfod ag unrhyw berson, hyd yn oed o statws enfawr, yn ei ddymchwel ar unwaith, fel pe bai'n ddim ond plentyn bychan", ac yn ddiweddarach, adroddai hanes sut y bu Corineus yn ymladd cawr o Gernyw, Gogmagog neu Goemagot ar ben y clogwyn o'r enw Lamm Goemagot.

Ysgrifennodd Thomas Hoby fod brenin Ffrainc yn 1551 wedi dangos i'r Arglwydd Ardalydd Northampton, yn 1551, "mwynhad ac anesmwythder mawr... gyda'r Lydawyw mawr yn ymryson â'm harglwyddi o Gernyw."[14]

Daw peth o'r dystiolaeth ysgrifenedig gynharaf ar gyfer reslo yng Nghernyw o gerdd o 1612 o'r enw "Poly-Olbion" gan Michael Drayton, sy'n rhoi enwau rhai o dafliadau Reslo Cernyw. Cyhoeddodd Drayton hefyd gerdd yn 1627 o'r enw Brwydr Agincourt, sy'n ymwneud â brwydr 1415. Dywed y gerdd fod y gwŷr o Gernyw a aeth gyda Harri V i'r frwydr yn dal baner dau reslwr o Gernyw, fel symbol o'u gwlad.

Mae reslwyr o Gernyw, Dyfnaint a Llydaw wedi cymryd rhan mewn gemau Rhyng-eltaidd ers o leiaf 1402 ac mae'r rhain yn parhau o bryd i'w gilydd. Yn y cyfnod cynnar roedd reslwyr o Gernyw a Dyfnaint yn aml yn ymaflyd yn erbyn ei gilydd er nad oedd y rheolau yr oeddent yn eu dilyn yn union yr un peth. Un o'r rhain oedd y gêm nodedig rhwng Richard Parkyn a John Jordan o Ddyfnaint.

Yn 1654, adroddwyd bod Oliver Cromwell a llawer o'i bobl yn gwylio 100 o Gernywiaid yn ymaflyd yn Hyde Park, gydag "...ystwythder corff a'r wreslo mwyaf destlus a choeth... fel ag i arddangos nerth, egni ac ystwythder eu cyrff.[15]

Cyfeiriadau

golygu
  1. http://www.gorsedhkernow.org.uk/archivedsite/kernewek/kevren.htm Archifwyd 2022-07-07 yn y Peiriant Wayback Omdowl Kernewek Gorsedh Kernow Adalwyd 10 Mehefin 2010.
  2. [https://geiriaduracademi.org Geiriadur yr Academi: fel y term 'gwres canol', nid oes angen dweud 'Reslo Cernywaidd'. Mae'r geiriadur yn nodi engreifftiau: brân Cernyw (Cornish chough), pastai Cernyw (Cornish pasty), llwyfan Cernyw (Cornish elm). Adalwyd 15 Ionawr 2023.
  3. Phillipps, K C: Westcountry Words & Ways, David & Charles (Publishers) Limited 1976, p99.
  4. Cornish culture steps into the spotlight, The Western Morning News, 14 August 2006.
  5. Chaucer, Geoffrey: The Canterbury Tales, The Knightes Tale, The Reeves Tale, the Tale of Gamelyn, The Tale of Sir Thopas, etc, 1387-1400
  6. Shakespeare, William: As you like it, Act III, Scene II, 1599
  7. Drayton, Michael: Poly-Olbion, 1612, i, 244
  8. James, Nicholas:Poems on several occasions, Wrestling, Andrew Brice (Truro) 1742, p21-40.
  9. Hone, William: The Table Book of Daily Recreation and Information, Hunt & Clarke 1827, p663-664.
  10. Tripp, Michael: PERSISTENCE OF DIFFERENCE: A HISTORY OF CORNISH WRESTLING, University of Exeter as a thesis for the degree of Doctor of Philosophy 2009, Vol I p2-217.
  11. W, Tregoning Hooper: Cornish Wrestling, The Cornish Review, Porthmeor Press (Penzance) 1950, p. 30–32.
  12. 12.0 12.1 Kendall, Bryan H: The Art of Cornish Wrestling, Federation of Old Cornwall Societies (Cornwall) 1990, p. 1–32.
  13. Guy Jaouen and Matthew Bennett Nicols: Celtic Wrestling, The Jacket Styles, Fédération Internationale des Luttes Associées (Switzerland) 2007, p1-183.
  14. Hoby, Thomas: A Book of the Travaile and Life of me Thomas Hoby, 1551
  15. The Moderate Intelligencer, May 1, 1654

Dolenni allanol

golygu