Deugraff yn yr wyddor Ladin yw rh. Mae i'w weld mewn sawl iaith.

Y Gymraeg golygu

Yr ail lythyren ar hugain yn yr wyddor Gymraeg yw rh. Mae'n cael ei threiglo yn feddal gan ei droi yn 'r' ond mae'n aros yn ei ffurf gysefin ar ddechrau enwau benywaidd fel 'rhaeadr', ar ôl y fannod neu'r rhif 'un', e.e. 'y rhaeadr', 'un rhaeadr'. Nid yw'n treiglo ar ôl y geirynnau 'cyn', 'mor' ac 'yn' chwaith, e.e. 'cyn rhated', 'mor rhadlon', 'yn rhwym'. Yngenir rh fel [r̥] yn ôl yr IPA.

Saesneg golygu

Mae'r deugraff i'w weld yn Saesneg mewn geiriau a ddaeth o'r Roeg, megis "rhapsody" a "rhythm". Mewn Hen Saesneg cafodd ei ysgrifennu fel hr a'i ynganu yn yr un modd â'r Gymraeg heddiw.

Tsieineeg Mandarin golygu

Mewn Tsieineeg Mandarin gall rh ddynodi dau beth yn dibynnu ar y trawslythreniad. Yn nhrawslythreniad Wade-Giles mae'n dynodi cytsain roteg ar ddiwedd sillaf, tra yn nhrawslythreniad Gwoyeu Romatzyh defnyddir rh- ar ddechrau sillaf sy'n cychwyn â /ʐ/ i ddangos mai tôn wastad sydd iddi.

  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.