Rhaeadr y Benglog

rhaeadr, Eryri, Cymru
(Ailgyfeiriad o Rhaeadr Ogwen)

Rhaeadr ar Afon Ogwen yn Eryri yw Rheadr y Benglog (hefyd Rheadr Ogwen).[1]

Rheadr y Benglog
Mathrhaeadr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.125202°N 4.022535°W Edit this on Wikidata
Map

Fe'i ceir wrth i Afon Ogwen lifo dros greigiau yn fuan ar ôl gadael Llyn Ogwen. Mae ger Bwthyn Ogwen yng nghymuned Bethesda, Gwynedd.

Yn syth ar ôl gadael pen gorllewinol Llyn Ogwen, mae Afon Ogwen yn creu Rhaeadr Ogwen wrth ddisgyn dros greigiau sy'n estyniad o graig Ben y Benglog. Ar ochr arall yr afon, sef yr ochr ddwyreiniol, mae creigiau Pen yr Ole Wen yn codi'n syrth. I ddechrau, mae'r creigiau ar wely'r afon yn weddol gwastad ac er bod y dŵr yn wyn nid yw'n creu rhaeadr fel y cyfryw, ond wrth lifo dan Bont y Benglog, sy'n cludo'r briffordd A5 dros yr afon, mae'r afon yn disgyn dros gyfres o risiau yn y graig sy'n creu'r rhaeadr.

Rhaeadr Ogwen

Ar waelod y rhaeadr mae'r afon yn ymwahanu yn sawl ffrwd ewynnog cyn cyrraedd tir mwy gwastad yn is i lawr a llifo yn unedig eto i lawr dyffryn Nant Ffrancon i gyfeiriad Bethesda.

Mae'r rhaeadr hon wedi tynnu sylw teithwyr ers y 18g oherwydd yr olygfa "Ramantaidd" gyda chopaon Tryfan a'r Glyderau yn gefndir iddi.

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Forgrave, Andrew (2021-05-09). "Not just Snowdon - 31 places in North Wales whose original names have been eroded by English". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-15.