Rhagargoelion Aberfan

Rhagargoelion honedig o drychineb Aberfan oedd rhagargoelion Aberfan. Ar 21 Hydref 1966 lladdwyd 144 o bobl, 116 ohonynt yn blant, gan dirlithriad o domen lo ym mhentref Aberfan yng Nghymru. Yn yr wythnosau wedi'r drychineb honnodd nifer o bobl i gael rhagdeimladau mewn breuddwydion a gweledigaethau.

Cafodd y rhagargoelion eu casglu a'u hastudio gan Dr J. C. Barker, seiciatrydd o Lundain. Yn syth wedi'r drychineb, cyhoeddodd Peter Fairley, gohebydd gwyddoniaeth yr Evening Standard, gais gan Barker am adroddiadau o ragargoelion. Cafodd erthygl Fairley ei syndicetio i bapurau eraill. Derbyniodd Barker 76 o atebion gan bobl ledled Prydain, y rhan fwyaf ohonynt gan fenywod (5 menyw i bob dyn), ac o oed 10 i 73. Yn ôl dadansoddiad Barker, roedd 16 ohonynt yn ddiwerth, ac roedd angen rhagor o ymchwiliad i ddilysu'r 60 arall. O'r 60 o honiadau hyn, roedd 22 ohonynt yn gallu rhoi enwau tystion i ategu natur ragwybodol y profiad, hynny yw i dystio glywed y rhagargoel gan y person a hynny cyn i'r drychineb ddigwydd. Rhannodd Barker y honiadau i dri chategori: "breuddwydion", "clirwelediad mewn cyfarfodydd ysbrydegol", ac "anghysur cyn y drychineb".[1]

Cafodd Eryl Mai Jones, merch deg mlwydd oed, freuddwyd a ddisgrifiodd i'w mam y diwrnod cyn y drychineb: "Es i'r ysgol ac nid oedd ysgol yna. Roedd rhywbeth du wedi dod i lawr drosti."[2] Pythefnos cyn y drychineb, dywedodd wrth ei mam nad oedd yn ofni marw, ac y bydd gyda'i dau ffrind ysgol, Peter a June. Cafodd Eryl ei chladdu rhwng Peter a June yn yr angladd torfol o'r plant ysgol a fu farw.[1] Cafodd un fenyw hunllef a oedd yn cynnwys plentyn a rhywbeth du, tonnog enfawr. Cafodd menyw arall weledigaeth o fynydd du symudol yn claddu plant.[2] Yn ôl Mrs H o Barnstaple, breuddwydiodd am nifer o blant mewn ddwy ystafell y noson cyn y drychineb.[1]

Daeth Barker i gredu y gall rhagargoelion fod o ddefnydd wrth atal trychinebau yn y dyfodol a helpodd i sefydlu Biwro Rhagargoelion Prydain ym 1967.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Tony Austin. Aberfan: The Story of a Disaster (Llundain, Hutchinson, 1967), tt. 217–8.
  2. 2.0 2.1 2.2 Kate Sleight (gol.). Chambers Myths and Mysteries (Caeredin, Chambers, 2008), t. 1.