Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls
Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Rheilffordd gyntaf y byd i deithwyr oedd Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls.
Adeiladwyd yn wreiddiol ym 1804 er mwyn cludo carreg galch o chwareli'r Mwmbwls i Abertawe a thu hwnt. Cludodd deithwyr am y tro cyntaf ar yr un diwrnod a ddiddymwyd caethwasiaeth gan Lywodraeth Pydain. Hwyrach, ddechreuodd ddefnyddio ager yn hytrach na cheffylau cyn droi at dramiau trydan nes iddi gau ym mis Ionawr 1960.
Hanes golygu
Ym 1804, gymeradwywyd cynllun i osod rheilffordd rhwng Abertawe a'r Mwmbwls gan Lywodraeth Prydain er mwyn cludo deunydd i ddociau Abertawe. Gosodwyd y traciau cyntaf yn Hydref y flwyddyn honno. Yr adeg hynny, adnabuwyd y rheilffordd fel Rheilffordd Ystumllwynarth (The Oystermouth Railway) cyn droi'n Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls. Ei henw mwyaf poblogaidd oedd Rheilffordd y Mwmbwls.
Nid oedd heol rhwng Abertawe ac Ystumllwynarth a phwrpas gwreiddiol y rheilffordd oedd cludo glo, mwyn haearn a charreg galch. Dechreuodd weithredu ym 1807 wrth i dramiau gael eu tynnu gan geffylau o Brewery Bank ger Camlas Abertawe yn Abertawe, ar hyd glannau Bae Abertawe i'w cyrchfan yn Castle Hill (ger 'Chwarel Clements' heddiw) ym mhentref pysgota Ystumllwynarth.