Ystum Llwynarth

pentref yn Sir Abertawe
(Ailgyfeiriad o Ystumllwynarth)

Ardal a phentref yw Ystum Llwynarth ("Cymorth – Sain" ynganiad ) neu Ystumllwynarth (Saesneg: Oystermouth) sy'n gorwedd i'r de o ddinas Abertawe. Yn weinyddol, mae'n ward etholiadol sy'n rhan o gymuned Y Mwmbwls, yn Sir Abertawe. Heddiw mae'r enw Saesneg 'Oystermouth' yn fath o enw amgen am bentref Y Mwmbwls ei hun. Poblogaeth: 4,315 (Cyfrifiad 2001).

Ystum Llwynarth
Mathpentref, ward Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2.01 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5737°N 4.0072°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW05000538 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Mae ward etholiadol Ystum Llwynarth yn cynnwys: Norton, pentref Ystum Llwynarth, Y Mwmbwls, a Thistleboon, yn etholaeth seneddol Gŵyr. Mae'r ward yn ffinio ar Newton i'r gorllewin, West Cross i'r gogledd a Bae Abertawe i'r de a'r dwyrain. Mae'r ffin rhwng pentref Ystum Llwynarth a'r Mwmbwls yn annelwig erbyn heddiw, gyda phobl yn tueddu i'w gynnwys fel rhan o'r Mwmwbwls.

Ystym Llwynarth gan y ffotograffydd Mary Dillwyn (1816-1906), c. 1853/4

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Tonia Antoniazzi (Llafur).[2]

Yn yr Oesoedd Canol cynnar, roedd Ystum Llwynarth yn un o ganolfannau pwysicaf Teyrnas Gŵyr lle ceid clas a gysylltir â Sant Illtud. Yng nghyfnod y Normaniaid, codwyd Castell Ystum Llwynarth yno, un o brif ganolfannau milwrol cwmwd Gŵyr. Yn ôl traddodiad, roedd y brudiwr Rhys Fardd (neu'r 'Bardd Bach' neu'r 'Bardd Cwsg') (fl. 1460-80) yn frodor o Ystum Llwynarth.[3]

Sefydlwyd Rheilffordd Ystum Llwynarth (Oystermouth Railway) yn gynnar yn y 19g. Mae'r lein ar gau ers y 1960au ac yn cael ei defnyddio fel llwybr troed heddiw.

Cyfeiriadau

golygu