Rhestr Llywyddion Banc y Byd

Ers 1946, mae 14 o bobl wedi gwasanaethu yn swydd Llywydd Grŵp Banc y Byd, sef pennaeth ar reolaeth gyffredinol Banc y Byd a chadeirydd ei ford gyfarwyddwyr. Yn ogystal, mae dau wedi gwasanaethu yn llywydd dros dro.

Statws

     Llywydd dros dro

# Llun Enw Tymor yn y swydd Cenedligrwydd Gyrfa cyn y swydd Nodiadau
1 Meyer, EugeneEugene Meyer (31 Hydref 1875 – 17 Gorffennaf 1959) 18 Mehefin 1946 – 18 Rhagfyr 1946  Unol Daleithiau Buddsoddwr a chyhoeddwr The Washington Post
Cadeirydd y Gronfa Ffederal (1930–33)
Llywydd cyntaf Banc y Byd
2 McCloy, John J.John J. McCloy (31 Mawrth 1895 – 11 Mawrth 1989) 17 Mawrth 1947 – 30 Mehefin 1949  Unol Daleithiau Is-Ysgrifennydd Rhyfel yr Unol Daleithiau (1941–45)
3 Black Sr., Eugene R.Eugene R. Black Sr. (1 Mai 1898 – 20 Chwefror 1992) 1 Gorffennaf 1949 – 31 Rhagfyr 1962  Unol Daleithiau Gweithredwr ym manc Chase Manhattan
4 Woods, GeorgeGeorge Woods (27 Gorffennaf 1901 – 20 Awst 1982) 1 Ionawr 1963 – 31 Mawrth 1968  Unol Daleithiau Banciwr buddsoddi a gweithredwr ym manc First Boston
5 McNamara, RobertRobert McNamara (9 Mehefin 1916 – 6 Gorffennaf 2009) 1 Ebrill 1968 – 30 Mehefin 1981  Unol Daleithiau Gweithredwr busnes y Ford Motor Company;
Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau (1961–68)
6 Clausen, Alden W.Alden W. Clausen (17 Chwefror 1923 – 21 Ionawr 2013) 1 Gorffennaf 1981 – 30 Mehefin 1986  Unol Daleithiau Llywydd a phrif weithredwr Bank of America
7 Conable, BarberBarber Conable (2 Tachwedd 1922 – 30 Tachwedd 2003) 1 Gorffennaf 1986 – 31 Awst 1991  Unol Daleithiau Cyngreswr o dalaith Efrog Newydd (1965–85) Y llywydd cyntaf heb gefndir ym myd busnes neu fancio
8 Preston, Lewis T.Lewis T. Preston (5 Awst 1926 – 4 Mai 1995) 1 Medi 1991 – 4 Mai 1995  Unol Daleithiau Gweithredwr ym manc J.P. Morgan & Co. Y llywydd cyntaf i farw yn y swydd.[1] Penodwyd Ernest Stern yn llywydd dros dro nes i'w olynydd gael ei ddewis.[2]
Stern, ErnestErnest Stern
dros dro
[3] (1933 – 7 Mehefin 2019)
1 Chwefror 1995 – 31 Mai 1995  Unol Daleithiau Rheolwr gyfarwyddwr Banc y Byd
Gweinyddwr cynorthwyol Asiantaeth yr Unol Daleithiau dros Ddatblygu Rhyngwladol (USAID)
Y llywydd dros dro cyntaf
Y llywydd cyntaf i'w eni y tu allan i'r Unol Daleithiau, a'r cyntaf i'w eni yn Ewrop (yr Almaen)
9 Wolfensohn, JamesJames Wolfensohn (1 Rhagfyr 1933 – 25 Tachwedd 2020) 1 Mehefin 1995 – 31 Mai 2005  Unol Daleithiau (Ildiodd ei ddinasyddiaeth Awstralaidd er mwyn parhau â'r traddodiad o gael Americanwr yn y swydd.)[4] Cyfreithiwr corfforaethau a banciwr buddsoddi Y llywydd etholedig cyntaf i'w eni y tu allan i'r Unol Daleithiau, a'r cyntaf i'w eni yn Oceania (Awstralia)
10 Wolfowitz, PaulPaul Wolfowitz (ganed 22 Rhagfyr 1943) 1 Mehefin 2005 – 30 Mehefin 2007  Unol Daleithiau Dirprwy Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau (2001–05)
11 Zoellick, RobertRobert Zoellick (ganed 25 Gorffennaf 1953) 1 Gorffennaf 2007 – 30 Mehefin 2012  Unol Daleithiau Gweithredwr ym manc Goldman Sachs
Dirprwy Bennaeth Staff y Tŷ Gwyn (1992–93)
Cynrychiolydd Masnach yr Unol Daleithiau (2001–05)
Dirprwy Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau (2005–06)
12 Kim, Jim YongJim Yong Kim (ganed 8 Rhagfyr 1959) 1 Gorffennaf 2012 – 1 Chwefror 2019  Unol Daleithiau Meddyg ac anthropolegydd
Cyd-sefydlwr yr elusen Partners in Health
Llywydd Coleg Dartmouth (2009–12)
Y llywydd croenliw cyntaf
Y llywydd cyntaf i'w eni yn Asia (De Corea)
Georgieva, KristalinaKristalina Georgieva
dros dro
[5] (ganed 13 Awst 1953)
1 Chwefror 2019 – 8 Ebrill 2019  Bwlgaria Is-Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd (2014–16)
Prif weithredwr Banc y Byd (2017–19)
Y llywydd benywaidd cyntaf
Y llywydd cyntaf i'w geni yn yr hen floc dwyreiniol (Bwlgaria)
13 Malpass, DavidDavid Malpass (ganed 8 Mawrth 1956) 9 Ebrill 2019–1 Mehefin 2023  Unol Daleithiau Prif economegydd y banc Bear Stearns
Is-Ysgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau dros Faterion Rhyngwladol (2017–19)
14 Banga, AjayAjay Banga (ganed 10 Tachwedd 1959) 2 Mehefin 2023–presennol  Unol Daleithiau Llywydd a phrif weithredwr Mastercard
Is-Gadeirydd General Atlantic
Y llywydd cyntaf i'w eni yn Ne Asia (India)
Cyfeiriadau:[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Briscoe, David (May 6, 1995). "World Bank President Lewis Preston Dies". Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 25, 2023. Cyrchwyd February 21, 2023.
  2. Lewis, Paul (February 13, 1995). "A Tight Race to Head the World Bank". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 26, 2015. Cyrchwyd February 21, 2023.
  3. Wolf, Martin (June 27, 2019). "Ernest Stern, economist, 1933-2019". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 27, 2019. Cyrchwyd June 28, 2019.
  4. "James Wolfensohn: banker to the world". The Sydney Morning Herald. October 9, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 23, 2022. Cyrchwyd October 10, 2010.
  5. "World Bank Group President Kim to Step Down February 1" (Press release). Washington, D.C.: World Bank Group. January 7, 2019. https://www.worldbank.org/en/news/press-release/2019/01/07/world-bank-group-president-kim-to-step-down-february-1. Adalwyd January 8, 2019.
  6. "Past Presidents". Washington, D.C.: World Bank Group Archives, World Bank Group. Cyrchwyd January 20, 2023.