James Wolfensohn
Bancwr a noddwr y celfyddydau Awstralaidd sy'n byw yn yr Unol Daleithiau oedd Syr James David Wolfensohn AO (1 Rhagfyr 1933 – 25 Tachwedd 2020) oedd yn Llywydd Banc y Byd o 1995 hyd 2005.[1]
James Wolfensohn | |
---|---|
Ganwyd | 1 Rhagfyr 1933 Sydney |
Bu farw | 25 Tachwedd 2020 Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | economegydd, banciwr, ffensiwr, gwleidydd, cyfreithiwr, cyfreithegwr, rheolwr |
Swydd | Llywydd Banc y Byd |
Gwobr/au | KBE, Doctor Anrhydeddus o'r Brifysgol Hebraeg, Jerusalem, Gwobr Doethuriaeth Ben Gourion, Theodor Heuss Award, Gwobr Leo-Baeck, Urdd Cyfeillgarwch, Order of the Golden Fleece, Honorary Officer of the Order of Australia, Great Immigrants Award, Grand Cordon of the Order of the Rising Sun |
Gwefan | http://www.wolfensohn.com/ |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd James Wolfensohn yn Awstralia ar 1 Rhagfyr 1933. Enillodd BA ac LLB o Brifysgol Sydney ac MBA o Ysgol Fusnes Harvard. Cyn iddo mynychu Harvard roedd yn gyfreithiwr yn y ffyrm Allen Allen & Hemsley. Gwasanaethodd fel swyddog yn Awyrlu Brenhinol Awstralia ac roedd yn aelod o dîm cleddyfa Awstralia yng Ngemau Olympaidd 1956.[1]
Gyrfa busnes
golyguSymudodd Wolfensohn i Lundain i weithio fel bancwr masnachol, ac yna symudodd i Ddinas Efrog Newydd i weithio ar Wall Street.[2]
Roedd Wolfensohn yn Llywydd ac yn Brif Weithredwr cwmni ei hunan, James D. Wolfensohn Inc, cwmni buddsoddi oedd yn cynghori corfforiaethau yn yr Unol Daleithiau ac o gwmpas y byd. Rhoddodd y gorau i'w ran yn y cwmni pan ymunodd â Banc y Byd. Roedd Wolfensohn hefyd yn Bartner Gweithredol yn Salomon Brothers, Dinas Efrog Newydd, am 10 mlynedd ac yn bennaeth yr adran fancio buddsoddi gan arwain ad-drefniant y Chrysler Corporation.[3] Roedd yn Ddirprwy Gadeirydd Gweithredol ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Schroeder’s Ltd yn Llundain, yn Llywydd J. Henry Schroeder’s Banking Corporation yn Ninas Efrog Newydd, ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Darling & Co yn Awstralia.[1]
Ymunodd â bwrdd Neuadd Carnegie ym 1970 ac roedd yn gadeirydd y bwrdd o 1980 hyd 1991. Arweiniodd adnewyddiad yr adeilad yn ystod y cyfnod hwnnw. Daeth yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Kennedy yn Washington, D.C. ym 1990.[1]
Teithiodd Wolfensohn i nifer o wledydd datblygol yn ystod ei yrfa busnes i drafod cytundebau buddsoddi, a darllenodd gweithiau'r economegydd Barbara Ward ar ddatblygiad. Roedd hefyd yn aelod bwrdd y Cyngor Busnes dros Ddatblygiad Cynaladwy a'r Cyngor Pobolgaeth, ac yn ymddiriedolwr y Brookings Institution, cyn iddo ddod yn Llywydd Banc y Byd.[3]
Llywyddiaeth Banc y Byd
golyguRoedd James Wolfensohn yn Llywydd Banc y Byd o 1 Mehefin 1995 hyd 31 Mai 2005. Penderfynodd Wolfensohn i ddychwelyd at bwrpas gwreiddiol y Banc, i leihau tlodi byd-eang, wedi i'r Banc treulio blynyddoedd yn mynd i'r afael ag argyfyngau ariannol rhyngwladol. O dan arweiniad Wolfensohn, canolbwyntiodd y Banc ar frwydro llygredigaeth ac ar roi mwy o sylw i gymunedau tlawd y byd. Cynyddodd ddatganoli o fewn y sefydliad a datblygodd y fiwrocratiaeth yn fwy technolegol ac yn fwy agored. Yn ystod ei lywyddiaeth teithiodd Wolfensohn i fwy na 120 o wledydd gan gwrdd â phobl o bob haen o gymdeithas.[1]
Tymor cyntaf (1995–1999)
golyguYm Mawrth 1995 cafodd Wolfensohn ei argymell gan yr Arlywydd Bill Clinton i olynu Lewis T. Preston, Llywydd Banc y Byd, oedd yn dioddef o ganser.[4] Bu farw Preston ar 4 Mai 1995. Roedd Wolfensohn yn gyfaill i Preston ac yn ei edmygu, ac anelodd i barhau â nod Preston o ailddatgan pwrpas y Banc yn ystod ei lywyddiaeth, yn enwedig wrth i'r 1990au wynebu datblygiad cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd a thlodi dirfawr yn yr Affrig is-Saharaidd.[3]
Ei brosiect mawr cyntaf oedd rhyddhad dyled i wledydd tlawd. Lluniodd restr o "Gwledydd Tlawd Uchel eu Dyled" (HIPCs) a gosododd meini prawf am ddarparu cymorth ar y cyd â'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF). Beirniadwyd y cynllun gan nifer o sefydliadau anlywodraethol am fod yn annigonol, ond enillodd Wolfensohn gefnogaeth gan lywodraethau, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, i ychwanegu mwy o wledydd datblygol i'r cynllun ac i leihau'r cyfnod cyn yr oeddent yn gymwys am ryddhad dyled. Gweithiodd hefyd gyda'r mudiad Jubilee 2000 er budd y cynllun.[2]
Ail dymor (2000–2005)
golyguYn Nhachwedd 1999 cafodd Wolfensohn ei ail-benodi'n Llywydd Banc y Byd gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr Gweithredol, a daeth yn yr unig Llywydd ers Robert McNamara i wasanaethu ail dymor yn y swydd[2] a'r trydydd yn hanes y Banc.[1] Yn ei ail dymor ymdrechodd Wolfensohn i rymuso (empower) pobl dlotaf y byd trwy strategaeth newydd i roi pobl yn ganolog i weithredoedd y Banc, ac anelodd i foddhau carfanau pwyso oedd yn feirniadol o fiwrocratiaeth y Banc. Cafodd ei alw'n "llefarydd tlodion y byd" gan y BBC.[2]
Ers Banc y Byd
golyguAr ôl gadael Banc y Byd dychwelodd Wolfensohn i fod yn gadeirydd Wolfensohn & Company LLC. Ymunodd hefyd â Citigroup, banc mwyaf y byd.[5]
Cafodd ei benodi'n gennad arbennig i'r Pedwarawd ar y Dwyrain Canol ar dynnu lluoedd a setlwyr Israelaidd o Lain Gaza, ond gadawodd y swydd ar ddiwedd Ebrill 2006.[6]
Yn 2010 cyhoeddwyd ei hunangofiant, A Global Life.[7]
Bywyd personol
golyguDaeth James Wolfensohn yn ddinesydd Americanaidd. Mae ei wraig, Elaine, yn arbenigwraig addysg a chanddi raddau o brifysgolion o Wellesley (BA) a Columbia (MA ac MEd). Mae ganddynt dri phlentyn: Sara, Naomi, ac Adam.[1]
Gwobrau ac aelodaethau
golyguDerbynodd Urdd Awstralia ar 26 Ionawr 1987.[8] Cafodd ei urddo'n Farchog Anrhydeddus gan y Frenhines Elisabeth II ym Mai 1995. Mae James Wolfensohn yn Gymrawd Academi Americanaidd y Celfyddydau a'r Gwyddorau ac yn Gymrawd y Gymdeithas Athronyddol Americanaidd. Enillodd y Wobr David Rockefeller gyntaf gan yr Amgueddfa Gelfyddyd Fodern yn Efrog Newydd am ei waith i'r celfyddydau.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Voice for the World's Poor: Selected Speeches and Writings of World Bank President James D. Wolfensohn, 1995–2005 (Washington, D.C.: World Bank, 2005).
- A Global Life: My Journey Among Rich and Poor, from Sydney to Wall Street to the World Bank (Efrog Newydd: PublicAffairs, 2010).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) James D. Wolfensohn. Banc y Byd. Adalwyd ar 14 Mai 2013.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Plutocrat for the poor. BBC (14 Medi 2000). Adalwyd ar 14 Mai 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Truell, Peter (13 Mawrth 1995). Man in the News; The Renaissance Banker: James David Wolfensohn. The New York Times. Adalwyd ar 15 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Greenhouse, Linda (12 Mawrth 1995). Clinton to Recommend Wolfensohn to Head World Bank. The New York Times. Adalwyd ar 15 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Dash, Eric (4 Tachwedd 2005). World Bank's Former Chief Will Be Hired by Citigroup. The New York Times. Adalwyd ar 14 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Erlanger, Steven (29 Ebrill 2006). World Briefing. The New York Times. Adalwyd ar 14 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Banker to the world: James Wolfensohn. The Economist (7 Hydref 2010). Adalwyd ar 14 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Wolfensohn, James David. Llywodraeth Awstralia. Adalwyd ar 14 Mai 2013.
Darllen pellach
golygu- Sebastian Mallaby, The World's Banker: A Story of Failed States, Financial Crises, and the Wealth and Poverty of Nations (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2004)