Biston strataria
Gwryw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Genws: Biston
Rhywogaeth: B. strataria
Enw deuenwol
Biston strataria
Hufnagel, 1767

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhisglyn y derw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy rhisgl y derw; yr enw Saesneg yw Oak Beauty, a'r enw gwyddonol yw Biston strataria.[1][2] Mae i'w ganfod yng ngwledydd Prydain a rhannau eraill o Ewrop.

40 to 56 mm ydy lled ei adenydd agored.

Prif fwyd y lindysyn ydy dail a rhisgl y y dderwen, llwyfen (Ulmus spp.), collen (Corylus avellana), Aethnen (Populus tremula) a'r wernen (Alnus glutinosa).<[3].

Cyffredinol golygu

 
Oedolyn yn gorffwys ar wal.

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r rhisglyn y derw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Bwyd a thymor y lindys golygu

Mae’r lindys yn bwyta dail derw, llwyfen, cyll, aethnen, gwern a choed eraill[4].

Cylch bywyd golygu

Mae’r oedolyn yn hedfan ym misoedd Mawrth ac Ebrill ar ôl gaeafu fel chwiler. Un genhedlaeth y flwyddyn sydd ganddo[4].

Statws golygu

Eang ei ddosbarthiad yng Nghymru ac ym Mhrydain heb fod yn anghyffredin. Yn fwyclytiog yn ne yr Alban ac Iwerddon[4].

Ffurfiau amrywiol golygu

Mae B.s. amr. melanaria yn ffurf unlliw du a gofnodwyd o Gaint, Surrey a Hampshire. Digwydd ffurfiau llai eithafol gyda lliw y ddwy asgell yn niwl o frown tywyll yn amlach[4]

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. De Prins, W. Lepidoptera of Belgium "Biston strataria (Hufnagel, 1767)" Check |url= value (help). Catalogue of the Lepidoptera of Belgium. Flemish Entomological Society. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2008. Unknown parameter |coauthors= ignored (help)
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Moths of the British Isles, B. Skinner (1984) Gwasg Viking