Rholyddion

teulu o adar
Rholyddion
Rholydd bronlelog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Coraciiformes
Teulu: Coraciidae
Rafinesque, 1815
Genws: Coracias
Rhywogaeth: C. caudatus
Genera

Teulu o adar ydyw'r Rholyddion (Lladin: Coraciidae; Saesneg: Rollers), sy'n frodorol o Affrica, Ewrop ac Asia (yr Hen Fyd).

Mae'r grŵp yn cael ei enwi'n "Rholyddio" oherwydd y modd acrobatig maen nhw'n perfformio yn ystod paru neu ar deithiau hedfan tiriogaethol. Mae'r Rholeri'n debyg i frain o ran maint ond yn debycach i Leision y dorlan (Alcedo atthis) o ran eu plu lliwgar. Mae dau o fysedd traed blaen y Rholydd wedi'u cysylltu, ond nid yr un allanol.

Pryfaid yw eu prif fwyd, gyda'r rhywogaeth Eurystomus yn cymryd eu hysglyfaeth ar yr adain, ac aelodau'r genws Coracias yn plymio o gangen i ddal eu bwyd o'r ddaear.

Er bod y Rholyddion sy'n fyw heddiw'n byw mewn hinsawdd cynnes yr Hen Fyd, dengys cofnodion ffosil bod Rholyddion yn bresennol yng Ngogledd America yn ystod yr Eosen.[1] Maent yn unweddog (yn cadw'n ffydlon i'w gilydd fel pâr); mewn twll mewn coeden maen nhw'n nythu, neu weithiau mewn wal garreg. Yn y trofannau, mae'r iâr yn dodwy rhwng 2-4 wy ar y tro, ond ceir 3-6 ar y mynyddoedd. Gwyn ydy lliw'r wyau ac maent yn deor ar ôl 17-20 diwrnod. Mae'r cyw yn aros ger y nyth am tua 30 diwrnod wedi hynny.

Rhywogaethau golygu

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Rholydd Coracias garrulus
 
Rholydd Abysinia Coracias abyssinicus
 
Rholydd India Coracias benghalensis
 
Rholydd adeinbiws Coracias temminckii
 
Rholydd asur Eurystomus azureus
 
Rholydd bronlelog Coracias caudatus
 
Rholydd gyddflas Eurystomus gularis
 
Rholydd llwygynffonnog Coracias spatulatus
 
Rholydd llydanbig Affrica Eurystomus glaucurus
 
Rholydd llydanbig Asia Eurystomus orientalis
 
Rholydd porffor Coracias naevius
 
Rholydd torlas Coracias cyanogaster
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

  1. Clarke, Julia A.; D. T. Ksepka; N. A. Smith; M. A. Norell (2009). "Combined phylogenetic analysis of a new North American fossil species confirms widespread Eocene distribution for stem rollers (Aves, Coracii).". Zoological Journal of the Linnean Society 157: 586–611. doi:10.1111/j.1096-3642.2009.00550.x.

Dolenni allanol golygu