Rhos Mair

(Ailgyfeiriad o Rhosmari)
Rhos Mair
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Lamiaceae
Genws: Rosmarinus
Rhywogaeth: R. officinalis
Enw deuenwol
Rosmarinus officinalis
L.
Rosmarinus officinalis

Perlysieuyn blodeuol, lluosflwydd persawrus yw rhos Mair,[1] rhosmari[2] neu ysbwynwydd[3] (Lladin: Rosmarinus officinalis) sy'n cael ei ddefnyddio i roi blas ar fwyd ac oherwydd ei rinweddau meddygol. Mae'n perthyn i deulu'r mintys (Lamiaceae) ac mae ganddo ddail nodwyddog, bytholwyrdd.

Mae llawer math gwahanol i'w gael, rhai'n tyfu'n llorwedd ac eraill ar i fyny hyd at 1.5 metr o uchder. Mae'r dail rhwng 2 – 4 cm o hyd 2 – 5 mm o led a'u lliw'n wyrdd (uchod) a gwyn wyneb isaf a rheiny yn flewog. Yn y gaeaf neu'r gwanwyn mae'r blodau'n ymddangos a gall eu lliwiau nhw amrywio: gwyn, pinc, porffor neu las.

Rhinweddau meddygol

golygu
 

Mae rhosmari'n cael ei ddefnyddio'n allanol fel shampŵ i wella'r lliw a'r cyflwr. Arferai'r Rhufeiniaid ei ddefnyddio a'i gyfri'n gysegredig oherwydd y rhinweddau hyn. Mae hefyd yn gwella gwynegon (cricmala), niwralgia, y bendro, nerfusrwydd fel gorguro'r galon a phoenau'r misglwyf.[4]

Mae ymchwil diweddar wedi dangos y gall gynorthwyo'r 'cof'.[5] Bu'n symbol o 'gof hir' ers canrifoedd ac mewn rhai rhannau o Ewrop caiff ei daflu ar yr arch i 'gofio' am y marw. Dywedd Ophelia hefyd yn Hamlet: There's rosemary, that's for remembrance.(Shakespeare: Hamlet, iv. 5.)

Llenyddiaeth

golygu

Ceir sawl cyfeiriad ato mewn llenyddiaeth gan gynnwys yr hen benillion.

Ar lan y môr mae carreg wastad,
Lle bum yn siarad gair a’m cariad,
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell sbrigyn o rosmari.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  rhos%20Mair. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
  2.  rhosmari. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
  3.  ysbwynwydd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
  4. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  5. Gwefan Saesneg 'Informa Healthcare'

Gweler hefyd

golygu