Sallwyr Rhygyfarch

llawysgrif Ladin o'r 11g o darddiad Cymreig

Llawysgrif Ladin o'r 11g o darddiad Cymreig sydd wedi'i ysgrifennu a'i addurno yn arddull Gwyddelig yw'r Sallwyr Rhygyfarch. Fe'i hysgrifennwyd tua 1079, yn ôl pob tebyg yn y sgriptoriwm yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion.[1]

Sallwyr Rhygyfarch
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
Deunyddmemrwn Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1079 Edit this on Wikidata
Tudalennau159 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLlanbadarn Fawr Edit this on Wikidata
PerchennogRhygyfarch ap Sulien Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifColeg y Drindod, Dulyn Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Mae'n cynnwys 159 o ddalennau memrwn, ac fe'i rhannir yn yr adrannau canlynol: Llythyr Sant Sierôm i Chromatius ac Elidorus; Breviarius Apostolorum; Martyrologium Hieronymianum; a Thablau Amrywiol.

Roedd y llyfr yn perthyn i Rhygyfarch ap Sulien (1056?–1099), Esgob Tyddewi. Ar ffolio 158v, yn ei law ei hun, mae'n dweud wrthym bod y cyfrol wedi ei ysgrifennu iddo gan ysgrifennydd o'r enw Ithael, a bod yr addurnlythyrennau mawr yn waith ei frawd Ieuan. Roedd eu tad, Sulien, wedi astudio yn Iwerddon am 13 mlynedd; mae addurniad y gyfrol yn dangos tebygrwydd clir i lawysgrifau Gwyddelig o'r un cyfnod.

Mae'r llawysgrif bellach yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn fel MS 50.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Coleg y Drindod, Dulyn; adalwyd 3 Rhagfyr 2017.

Llyfryddiaeth golygu

  • The Psalter and Martyrology of Ricemarch, gol. H. J. Lawlor, Henry Bradshaw Society 47 a 48, 2 gyfrol (Llundain, 1914)

Dolen allanol golygu