Rhys Cadwaladr
bardd
Roedd Syr Rhys Cadwaladr (fl. 1666-1690) yn fardd Cymraeg. Fe'i ganed yng Nghonwy, gogledd Cymru.
Rhys Cadwaladr | |
---|---|
Ganwyd | 1666 Conwy |
Bu farw | 1690 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1666 |
Roedd yn fab i Rys Trefnant. Bu'n ficer Llanfairfechan (Sir Gaernarfon) am gyfnod.
Doedd o ddim yn fardd proffesiynol - roedd y Traddodiad Barddol wedi marw allan bron erbyn hynny - ond canai ar y mesurau caeth er ei ddifyrrwch ei hun. Canodd i aelodau o deulu'r Mostyniaid, un o deuluoedd pwysicaf Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych, a chyfansoddodd hefyd nifer o gerddi cellwair i'w gyfaill Thomas Jones, yr almanaciwr o Amwythig.
Trosodd sawl darn o waith y bardd Lladin, Horas, a'r dramodydd Rhufeinig Seneca'r Ieuaf i'r Gymraeg.