Lewys ab Owain

swyddog gwladol

Uchelwr o ardal Dolgellau, Meirionnydd, oedd Lewys ab Owain (bu farw 11 Hydref 1555), a adwaenir hefyd fel Y Barwn Lewys ab Owain neu (Barwn) Lewis Owen.

Lewys ab Owain
Ganwyd16 g Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw11 Hydref 1555, 11 Hydref 1555 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552, Member of the March 1553 Parliament, Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd 1554-55 Edit this on Wikidata
TadOwain ap Hywel ap Llywelyn ap Gruffudd Ddû Edit this on Wikidata
MamGwenhwyfar ferch Meurig ab Ieuan ab Einion Edit this on Wikidata
PriodMargaret Puleston Edit this on Wikidata
PlantEdward Owen, Robert Owen, Elis ferch Lewys Owen, Gruffudd Owen Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd yn fab i Owain ap Hywel ap Llywelyn o Gwrt Plas-yn-dre, Dolgellau, ac yn ŵr o dras barchus iawn. Priododd Fargred ferch Robert Pilstwn, rheithor Chwitffordd a Gresffordd. Daeth yn Is-Siamberlen Gogledd Cymru a Barwn y Dysorlys i'r ardal. Yn ogystal gwasnaethodd fel Siryf Sir Feirionnydd (1546, 1555) ac fel Aelod Seneddol dros etholaeth y sir yn seneddau 1547, 1552 a 1554.

Yr adeg honno roedd ardal Mawddwy, rhwng Dolgellau a Machynlleth, yn ddrwgenwog iawn fel cartref Gwylliaid Cochion Mawddwy — criw o herwyr a ddaeth yn enwog yn llên gwerin Cymru. Fel siryf ac AS a thirfeddianwr lleol, roedd Lewys eisoes yn un o elynion pennaf y Gwylliaid. Ond pan gafodd ef a John Wyn ap Maredudd (m. 1559) o Wydir eu gwysio i heddychu'r ardal, daliwyd tua 80 o'r herwyr a'u crogi. Roedd gweddill y Gwyllion am eu dial.

Ymosodwyd ar y Barwn gan griw o’r Gwylliad yn Nugoed Mawddwy, ger Dinas Mawddwy, ar 11 Hydref, 1555. Er i'w fab-yng-nghyfraith John Lloyd o'r Ceiswyn, wneud ei orau i'w amddiffyn, saethwyd y Barwn a'i ladd, gyda tua 30 o anafiadau ar ei gorff. Adnabyddir y llecyn byth ers hynny fel 'Llidiart y Barwn'.

Crogwyd amryw o’r gwylliaid am y llofruddiaeth, ac mae marwnadau i Lewys ab Owen gan nifer o feirdd, yn cynnwys Gruffudd Hiraethog. Yn yr achos llys a ddilynodd y llofruddiaeth dywedwyd mai John Goch, neu John Goch ap Gruffudd ap Huw, oedd y gŵr a darawodd yr ergyd farwol.

Cofnodir yr hanes gan Thomas Pennant yn ei gyfrolau Tours in Wales.

Cyfeiriadau golygu