Awdur straeon byrion a nofelau yn yr iaith Sbaeneg, beirniad llenyddol, ac academydd o'r Ariannin oedd Ricardo Piglia (24 Tachwedd 19416 Ionawr 2017) sy'n nodedig am gyflwyno ffuglen hard-boiled i lên yr Ariannin.[1]

Ricardo Piglia
Ganwyd24 Tachwedd 1941 Edit this on Wikidata
Adrogué Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ionawr 2017 Edit this on Wikidata
o sglerosis ochrol amyotroffig Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Universidad Nacional de La Plata Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, newyddiadurwr, sgriptiwr, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amRespiración artificial, Burnt Money Edit this on Wikidata
Arddullrhyddiaith Edit this on Wikidata
Gwobr/auCity of Barcelona Award, Gwobr Formentor, Gwobr Narratif Ibero-Americanaidd Manuel Rojas, José María Arguedas Prize, Gwobr Rómulo Gallegos, Roger Caillois Prix, Premio Iberoamericano de Letras José Donoso, Cymrodoriaeth Guggenheim, diamond Konex award, Prif Anrhydedd y SADE Edit this on Wikidata
llofnod

Astudiodd ym Mhrifysgol Genedlaethol La Plata yn 1961–62. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, La invasión, yn 1967. Roedd yn hoff iawn o ffuglen dditectif boblogaidd, er iddo ddefnyddio themâu deallusol a chyfeiriadau cymhleth yn ei straeon ei hun. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r casgliadau Nombre falso (1975), Prisión perpetua (1988), a Cuentos morales (1995), a'r nofelau Respiración artificial (1980), La ciudad ausente (1992), a Blanco nocturno (2010).

Ysgrifennodd hefyd am hanes llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd, gan gynnwys gweithiau am Jorge Luis Borges, Roberto Arlt, Julio Cortázar, a Manuel Puig. Hyrwyddodd Serie Negra, cyfres o gyfieithiadau Sbaeneg o straeon hard-boiled Americanaidd. Addysgodd mewn sawl prifysgol, gan gynnwys Harvard a Princeton yn yr Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Ricardo Piglia. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Ebrill 2019.