Richard Griffiths (arloeswr)
Un o arloeswyr y diwydiant glo yn ardal Cwm Rhondda oedd y Dr Richard Griffiths (13 Ionawr 1756 - 1826).
Richard Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1756 Llanwynno |
Bu farw | 1826 Llanwynno |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | meddyg, dyfeisiwr |
Mab oedd Richard Griffiths i William ac Elizabeth Griffiths o'r Gellifendigaid ym mhlwyf Llanwonno, ger Pontypridd. Bu'n feddyg yng Nghaerdydd lle daeth i adnabod aelodau o deulu Crawshay, Homfray a Guest. Yn 1794 cyhuddwyd ef gan Samuel Homfray o dwyllo wrth chware cardiau mewn noson lawen yng Nghaerdydd ond fe'i cafwyd yn ddieuog yn Sesiwn Henffordd.
Roedd ei deulu yn bur gyfoethog ac yn perchen eiddo o gylch Pontypridd, sef Gellifendigaid, Glyn Coch, y Gelliwastad, Tyfica a'r Gelliwion, a daeth y tiroedd hyn yn bwysig ym menterau busnes Richard Griffiths yn nes ymlaen. Yn 1790, agorodd y pwll glo cyntaf oll yng Nghwm Rhondda ; cymaint oedd ei lwyddiant fel y gwnaed tramffordd dair milltir oddi yno i Bontypridd. Yn 1800, cododd bont dros afon Taf, sef "Pont y Doctor" - ac yn yr un flwyddyn dechreuodd ar gamlas i gyfarfod â Chamlas Forgannwg. Yn 1808 cafodd brydles 99 mlynedd at y mwyn dan dir ystad Evan Morgan o'r Hafod Fawr, a chynyddodd ei fusnes yn sylweddol.
Bu'r Dr Griffiths yn adnabyddus am ei waith elusennol hefyd. Cyfranodd i lawer achos da yn ardal Pontypridd, yn cynnwys rhoi tiroedd yn rhad at godi ysgolion, addoldai ac adeiladau cyhoeddus.
Bu farw yn y flwyddyn 1826, yn 70 oed, a chladdwyd ef yn eglwys blwyf Llanwonno.
Ffynhonnell
golyguJohn James Evans, Cymry Enwog y Ddeunawfed Ganrif (Gwasg Aberystwyth, 1937), tt. 187-198.