Llanwynno
Pentref bychan a phlwyf eglwysig yn Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Llanwynno (Seisnigiad: Llanwonno). Saif rhwng Cwm Cynon a Chwm Rhondda.
![]() Yr olygfa o'r eglwys | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysybŵl a Choed-y-cwm ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7°N 3.4°W ![]() |
Cod OS | ST029955 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au | Beth Winter (Llafur) |
![]() | |
Gorwedd y pentref tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Pontypridd, yn y bryniau rhwng y Rhondda Fach a Chwm Cynon. Mae ffyrdd yn ei gysylltu â Phontypridd i'r de, Penrhiw-ceibr i'r dwyrain a Glynrhedynog i'r gorllewin.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[1][2]
HanesGolygu
Ceir sawl cyfeiriad at Llanwynno yn hunangofiant Glanffrwd. Anfarwolwyd Llanwynno i'r darllenwyr Saesneg gan Gwyn Thomas, y nofelydd a darlledwr, yn A Few Selected Exits (1968). Ffilmwyd yr hunangofiant hwn fel Selected Exits (1993) yn Llanwynno efo Anthony Hopkins yn chwarae rhan Gwyn.
Claddwyd Guto Nyth Bran yn Eglwys Sant Gwynno, a chynhelir rasys Nos Galan er cof amdano, rasys sy'n gorffen yn 'Sgwar Guto' Aberpennar. Roedd hen blwyf Llanwynno yn cynnwys ar un adeg Abercynon, Penrhiwceiber, Ynysybwl, darnau o Aberpennar a Phontypridd, Porth, Ynyshir a Blaenllechau yn y Rhondda.
HamddenGolygu
Yn Fforest Llanwynno gerllaw mae Canolfan Gweithgareddau Allanol Daerwynno.
EnwogionGolygu
- Dr Richard Griffiths (1756 - 1826), un o arloeswyr y diwydiant glo yn ardal Cwm Rhondda.
- Guto Nyth Brân (1700 - 1737), a gladdwyd ym mynwent eglwys Llanwynno
- Naunton Wayne (1901 -1970), actor cymeriad
CyfeiriadauGolygu
- Hanes Plwyf Llanwynno 1843-90, yn wreiddiol yn Y Darian wedyn ar ffurf llyfr ym 1888
- Glanffrwd. Llanwynno. Golygwyd gan Henry Lewis. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 1949.
Trefi
Aberdâr ·
Aberpennar ·
Glynrhedynog ·
Llantrisant ·
Pontypridd ·
Y Porth ·
Tonypandy ·
Treorci
Pentrefi
Aberaman ·
Abercwmboi ·
Abercynon ·
Abernant ·
Y Beddau ·
Blaenclydach ·
Blaencwm ·
Blaenllechau ·
Blaenrhondda ·
Brynna ·
Brynsadler ·
Cefn Rhigos ·
Cefnpennar ·
Cilfynydd ·
Coed-elái ·
Coed-y-cwm ·
Cwmaman ·
Cwm-bach ·
Cwm Clydach ·
Cwmdâr ·
Cwm-parc ·
Cwmpennar ·
Y Cymer ·
Dinas Rhondda ·
Y Ddraenen Wen ·
Efail Isaf ·
Fernhill ·
Ffynnon Taf ·
Y Gelli ·
Gilfach Goch ·
Glan-bad ·
Glyn-coch ·
Glyn-taf ·
Y Groes-faen ·
Hirwaun ·
Llanharan ·
Llanhari ·
Llanilltud Faerdref ·
Llanwynno ·
Llwydcoed ·
Llwynypïa ·
Y Maerdy ·
Meisgyn ·
Nantgarw ·
Penderyn ·
Pendyrus ·
Penrhiw-ceibr ·
Penrhiw-fer ·
Penrhys ·
Pentre ·
Pentre'r Eglwys ·
Pen-yr-englyn ·
Pen-y-graig ·
Pen-y-waun ·
Pont-y-clun ·
Pont-y-gwaith ·
Y Rhigos ·
Rhydyfelin ·
Ton Pentre ·
Ton-teg ·
Tonyrefail ·
Tonysguboriau ·
Trealaw ·
Trebanog ·
Trecynon ·
Trefforest ·
Trehafod ·
Treherbert ·
Trehopcyn ·
Trewiliam ·
Tynewydd ·
Wattstown ·
Ynys-hir ·
Ynysmaerdy ·
Ynysybŵl ·
Ystrad Rhondda
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014