Diserth
- Am y pentrefan yn ne Powys gweler Diserth, Powys.'
Pentref canolig ei faint a chymuned yn Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Diserth( Diserth )[1][2] (ffurf Saesneg: Dyserth). Poblogaeth 2566 (Cyfrifiad 2001). Mae'n gorwedd ychydig o filltiroedd i'r de o Brestatyn ac i'r dwyrain o dref Rhuddlan.
![]() | |
Math |
pentref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.3°N 3.4°W ![]() |
Cod SYG |
W04000153 ![]() |
Cod OS |
SJ056789 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ann Jones (Llafur) |
AS/au | James Davies (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Yn yr Oesoedd Canol, Diserth oedd canolfan cwmwd Prestatyn, yng nghantref Tegeingl. Yma, ar gyrion y pentref presennol, roedd plasdy Botryddan, canolfan y Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol grymusaf y Gogledd. Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Lhuyd, claddwyd y bardd ac ysgolhaig Dafydd Ddu o Hiraddug (bu farw tua 1370) yn eglwys Diserth.
Ger y pentref ceir olion hen chwareli a rhaeadrau, ac mae bryn deniadol Moel Hiraddug yn y cyffiniau. Gorwedd ar yr A5151 ac mae rhan o Lwybr y Gogledd yn rhedeg heibio i'r pentref.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2008; tud. 295
- ↑ Dictionary of Place-names in Wales; Gwasg Gomer; Cyhoeddwyd 2007; tud 125
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion