John Davies, Mallwyd

un o ysgolheigion mwyaf Cymru

Ysgolhaig, geiriadurwr, awdur a gweinidog o Gymru oedd Dr John Davies (tua 15671644), a adwaenir fel Dr John Davies, Mallwyd, am iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn rheithor Mallwyd yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd).

John Davies, Mallwyd
Cerflun o John Davies ar Gofeb Cyfieithwyr y Beibl, Llanelwy.
Ganwyd1567 Edit this on Wikidata
Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mai 1644 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgeiriadurwr, ieithydd, cyfieithydd, cyfieithydd y Beibl Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Fe'i ganed yn Llanferres, yn yr hen Sir Ddinbych (Sir y Fflint heddiw). Roedd yn gyfaill i Esgob William Morgan a chredir mai ef a wnaeth y rhan fwyaf o'r waith o ddiwygio testun cyfieithiad newydd William Morgan o'r Beibl (1620) ar gyfer y wasg. Yn 1621 cyhoeddodd ei waith pwysicaf, sef y gramadeg o'r iaith Gymraeg Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta. Cyhoeddodd ddau eiriadur, yn cynnwys ei eiriadur Lladin-Cymraeg seiliedig ar waith Thomas Wiliems o Drefriw, y Dictionarum Duplex (1632), a sawl cyfrol arall.

Yn ogystal â'i waith fel awdur ac ysgolhaig, roedd John Davies yn gopïwr llawysgrifau diwyd ac rydym yn ddyledus iddo heddiw am ddiogelu sawl testun Cymraeg Canol. Cyhoeddwyd detholiad o rai o'r cerddi canoloesol a gopïwyd ac a olygwyd gan John Davies ar ôl ei farwolaeth yn y flodeugerdd Flores Poetarum Britannicorum (1710), sy'n cynnwys yn ogystal y casgliad cyntaf mewn print o'r Hen Benillion.

Llyfryddiaeth

golygu

Astudiaethau

golygu

Cyfeiriadau

golygu