Richard Richards (AS Meirionnydd)
Roedd Richard Richards (22 Medi 1787 – 27 Tachwedd 1860) yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd o 1835 i 1852.[1]
Richard Richards | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1787 Dolgellau |
Bu farw | 27 Tachwedd 1860 Dolgellau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Richard Richards |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Richards yn Nolgellau yn fab hynaf i Syr Richard Richards, Prif Barwn y Trysorlys a Catherine ferch ac etifedd Robert Vaughan Humphreys, ystâd Caerynwch, Dolgellau
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster a choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle raddiodd BA ym 1810 ac MA ym 1812.
Ym 1814 priododd Harriet merch hynaf Jonathan Dennett, bu iddynt un mab a dwy ferch.[2]
Gyrfa
golyguHyfforddwyd Richards yn y gyfraith yn y Deml Fewnol gan gael ei alw i'r Bar ym 1812. Ym 1814 fe'i penodwyd yn Comisiynydd Methdaliadau. Ym 1820 fe'i penodwyd yn Gyfrifydd a Meistr Llys y Trysorlys gan dal y swydd hyd 1841 pan benodwyd ef yn Feistr mewn Siawnsri.
Gyrfa Wleidyddol
golyguAr ymddeoliad Syr Robert Williames Vaughan o'r Senedd ym 1836 Safodd Richards yn enw'r Blaid Geidwadol gan ennill y sedd yn gyffyrddus dros ei wrthwynebydd Rhyddfrydol gyda 77% o'r bleidlais. Cadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad ym 1837, 1841 a 1847 gan ymneilltuo o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1852[3]
Marwolaeth
golyguBu farw yng Nghaerynwch, Dolgellau yn 70 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Sant Marc y Brithdir.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur RICHARDS (TEULU), Coed, a HUMPHREYS (TEULU), Caerynwch [1] adalwyd 4 Ionawr 2016
- ↑ "Advertising - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1860-12-08. Cyrchwyd 2016-01-04.
- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 [2] adalwyd 4 Ionawr 2016
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Robert Williames Vaughan |
Aelod Seneddol Meirionnydd 1836 – 1852 |
Olynydd: William Watkin Edward Wynne |