William Watkin Edward Wynne

tirfeddianwr a gwleidydd Cymreig

Roedd William Watkin Edward Wynne (23 Rhagfyr 1801 - 9 Mehefin 1880) yn fonheddwr Cymreig, yn hynafiaethydd ac yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd.

William Watkin Edward Wynne
Ysgythriad o William Watkin Edward Wynne gan Charles William Walton; 1870au
Ganwyd23 Rhagfyr 1801 Edit this on Wikidata
Peniarth Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 1880 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhynafiaethydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadWilliam Wynne Edit this on Wikidata
MamElizabeth Puleston Edit this on Wikidata
PriodMary Wynne Edit this on Wikidata
PlantWilliam Robert Maurice Wynne, Owen Slaney Wynne Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

William Watkin Edward Wynne oedd yr hynaf o ddeg plentyn William Wynne Ystâd Peniarth ger Tywyn, Meirionnydd ac Elizabeth (née Puelston) merch y Parch Richard Puleston o Neuadd Pickhill Sir Ddinbych. Ganwyd W. W. E. Wynne yng nghartref teuluol ei fam ar 23 Rhagfyr 1801.[1]

Cafodd ei addysg gynharaf, yn ôl trefn bonheddwyr y cyfnod, gan diwtoriaid yn y cartref cyn cael ei gofrestru fel disgybl yn Ysgol Westminster ym 1814. O Westminster aeth yn fyfyriwr i Goleg yr Iesu. Rhydychen gan fatriciwleiddio ar 24 Mawrth 1824 [2]

Bywyd personol golygu

Ymbriododd Wynne ar Mai 8fed 1839 â Mary, ail ferch a chyd etifeddes Robert Aglion o Walford Manor a Hatton Grange Swydd yr Amwythig. Wedi'r briodas bu'r deuddyn yn ymgartrefu ar ystâd Aglion yn Ruyton Hall, Swydd yr Amwythig. Yno ganwyd iddynt dau fab William Robert Maurice Wynne ac Owen Slaney Wynne. Bu'r teulu'n fyw wedi hynny ym Mynydd Seion, Croesoswallt ac Aberamffra, yr Abermaw cyn etifeddu'r ystâd edling ym Mheniarth.

Bywyd cyhoeddus golygu

Roedd bywyd cyhoeddus Wynne yn bennaf nodedig oherwydd ei rôl fel sgweier lleol, fel pob un o'i radd mae'n cael ei ddisgrifio fel sgweier rhadlon; ond prin y byddid unrhyw un yn dweud yn wahanol!

Roedd Wynne, yn groes i dueddiadau ei oes (a oedd am gadw dibyniaeth ar fwyd yn nwylo'r landlordiaid) yn gredwr brwdfrydig yn y syniad o hybu tyfu bwyd yn yr ardd a'r rhandir ac fe fu yn un o sylfaenwyr y cysyniad o'r Sioe Pentref lle'r oedd y werin yn cael arddangos a rhannu eu gallu i greu eu bwyd eu hunain o dir a chrefft a lle roedd y fath grefft yn cael ei fawrygu.

Fe gynrychiolodd Wynne etholaeth Meirion yn San Steffan fel Aelod Seneddol am 13 mlynedd o 1852 i 1865 cyn ildio ei sedd i'w mab William Robert Maurice Wynne. Roedd yn Uchel Sirif Meirion, yn Dirpwy Raglaw, Ystys Heddwch, Ynad Sirol ac yn Gwnstabl Castell Harlech.[3]

Hynafiaethydd golygu

Mae Wynne yn cael ei gofio yn bennaf fel hynafiaethydd. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes eglwysig, archaeoleg, achyddiaeth, hanes lleol, ystyr enwau llefydd a chasglu a thrawsysgrifio llawysgrifau.

Trwy briodas ei dad ag Elizabeth Pulston daeth Wynne yn berchennog ar gasgliad llyfrgell Penbedw. Fe drawsysgrifiodd nifer o lawysgrifau o gasgliad Brogyntyn ac ym 1859 etifeddodd casgliad Hengwrt drwy ewyllys Syr Robert Williames Vaughan. Ar ôl marwolaeth meibion Wynne drosglwyddwyd y llawysgrifau o Beniarth i’r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth, lle mae'n parhau fel un o gasgliadau pwysicaf y llyfrgell, sef casgliad Llawysgrifau Peniarth.[4]

Ym 1852 cafodd ei ethol yn gymrawd o'r Society of Antiquaries, yr oedd yn un o ymddiriedolwyr a llywydd Cymdeithas Archeolegol Cambrian ac yn is lywydd y Powysland Club. Fe gyhoeddodd nifer fawr o erthyglau yng nghylchgronau a thrafodion hanesyddol y cyfnod megis Montgomeryshire Collections, Y Cymmrodor, Byegones, gan gynnwys bron i ddeugain erthygl yn Archaeologia Cambrensis. Yn ddiweddarach cyhoeddwyd dau o'i erthyglau 'A Historical and Topographical Guide to Harlech Castle' ac 'A History of the Parish of Llanegryn' fel llyfrynnau unigol.

Marwolaeth golygu

Bu farw W W E Wynne ar 9fed Mehefin 1880 a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Llanegryn.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Griffith, John Edward Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families with their Collateral Branches in Denbighshire, Merionethshire and other parts W K Morton & Sons 1914
  2. Foster: Alumni Oxonienses, 1715-1886 tud 1632
  3. Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd Cyf 1 Rhif 2 t 69-76 (1949) William Watkin Edward Wynne
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llawysgrifau Peniarth Adalwyd Hydref 13 2013
  5. Bywgraffiadur ar lein WYNNE (TEULU), Peniarth, sir Feirionnydd Adalwyd Hydref 13 2013
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Richards
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
18521865
Olynydd:
William Robert Maurice Wynne