Cyfrinydd a llenor o Loegr oedd Richard Rolle De Hampole (tua 129029 Medi 1349) sydd yn nodedig am ei ysgrifau sydd yn ymwneud â chyfriniaeth Gristnogol ac asgetigiaeth, yn Saesneg Canol ac yn Lladin.

Richard Rolle
Portread o Richard Rolle mewn llawysgrif o'r 14g.
Ganwyd1300s Edit this on Wikidata
Gogledd Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 1349 Edit this on Wikidata
Hampole Edit this on Wikidata
Man preswylHampole Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Teyrnas Lloegr Teyrnas Lloegr
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, meudwy, diwinydd Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl20 Ionawr, 29 Medi, 1 Rhagfyr Edit this on Wikidata

Daw'r wybodaeth am fywyd Rolle o'r legenda, straeon amdano a gasglwyd wedi ei farwolaeth. Ganed ef yn Thornton-le-Dale yn Swydd Richmond, Esgobaeth Efrog (a leolir heddiw yng Ngogledd Swydd Efrog), Teyrnas Lloegr, yn fab i William Rolle. Derbyniodd elfennau ei addysg wrth yr aelwyd cyn iddo gael ei anfon gan Thomas Neville, Archddiacon Durham, i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen. Gadawodd heb radd, yn 19 oed, am iddo gael ei siomi gan y dysgu seciwlar a'r dadlau academaidd, a throdd at fywoliaeth asgetaidd. Aeth yn feudwy yn gyntaf yn y coedwig ar gyrion tŷ ei dad, yn Thornton-le-Dale. Yn ôl un stori, ceisiodd wneud gwisg fynachaidd allan o hen garpau o'i deulu, ond yr oedd ei abid cyn druenus ag iddo gael ei watwar gan y bobl leol, a ffoes i gychwyn ar ei deithiau.[1]

Wrth weddïo a phrefethu mewn capel preifat mewn pentref cyfagos, o bosib Dalton neu Pickering, gwnaeth Rolle argraff ar ŵr bonheddig lleol, John de Dalton, beili Castell Pickering. Daeth Rolle dan nawdd Dalton, ac aeth yn feudwy ar ei ystad.[1] Mae'n debyg iddo grwydro a symud i feudwyfeydd eraill trwy gydol ei oes, a chadwai Rolle gysylltiadau â chymunedau crefyddol ar draws Gogledd Lloegr.[2] Treuliodd ddiwedd ei oes yn gynghorwr ysbrydol i leiandy'r Sistersiaid yn Hampole, ger Doncaster, yn ne Swydd Efrog, a daeth i adnabod ancres leol o'r enw Margaret Kirby. Yn Hampole bu farw Richard Rolle ar Ŵyl Fihangel, 29 Medi 1349, o bosib o'r pla du.[1][2]

Ymddengys ei ysgrifeniadau mewn rhyw 500 o lawysgrifau cyfoes, ond mae'n anodd weithiau i wahaniaethu rhwng yr hyn sydd yn wreiddiol gan Rolle a gweithiau ei ddilynwyr a dynwaredwyr. Gwaith pwysicaf Rolle ydy'r rhyddiaith ddefosiynol a ysgrifennwyd ganddo yn Saesneg Canol ar gyfer darllenwyr benywaidd. Ei waith unigol amlycaf, fodd bynnag, ydy'r gerdd Pricke of Conscience, crynodeb ar gân o ddiwinyddiaeth Gatholig, yn bennaf edifeirwch. Dyma'r gerdd Saesneg Canol a gopïwyd fynychaf, gan iddi ymddangos mewn 130 o lawysgrifau'r cyfnod. Priodolir iddo hefyd epistolau a thraethodau yn Saesneg Canol a Lladin sydd yn mynegi ei dduwioldeb selog a'i bwyslais ar berlesmair ac undeb cyfriniol gyda Duw. Molir y bywyd asgetaidd—cynhemlad, unigrwydd, tawelwch, myfyrdod, a chrwydraeth—yn ei waith. O ran ei arddull, mae ei ysgrifeniadau Lladin yn dra-rhethregol, ond mae ei ryddiaith Saesneg yn fywiog a llawn perswâd.

Câi Rolle ddylanwad ar lenyddiaeth a chrefydd yn Lloegr hyd at y Diwygiad Protestannaidd. Yn y cyfnod yn syth wedi ei farwolaeth, datblygodd cwlt er anrhydedd "Sant Richard Feudwy", ac aeth lleianod Sistersaidd Hampole ati i lunio'i fywgraffiad (y legenda) a chasglu gweddïau ac emynau ar gyfer gwasanaeth iddo, yn y gobaith y byddai'n cael ei ganoneiddio.[1] Olynwyd Rolle gan sawl cyfrinydd Seisnig o nod yn y 14g a dechrau'r 15g: Walter Hilton, awdur di-enw y gwaith The Cloude of Unknowyng, Julian o Norwich, a Margery Kempe.

Gweithiau

golygu
Esboniadau
Traethodau
  • Incendium Amoris
  • Contra Amatores Mundi
  • Melos Amoris
Epistolau ac ysgrifau didactig
  • Judica Me – yn Lladin
  • Emendatio Vitae – yn Lladin
  • Ego Dormio – yn Saesneg
  • The Commandment – yn Saesneg
  • The Form of Living – yn Saesneg
Barddoniaeth
  • Canticum Amoris – cerdd Ladin i'r Forwyn Fair
  • Pricke of Conscience

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Clayton J. Drees, "Rolle, Richard (1290–1349)" yn Historical Dictionary of Late Medieval England, 1272–1485, golygwyd gan Ronald H. Fritze a William B. Robison (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2002), tt. 480–82
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Richard Rolle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Ionawr 2023.

Darllen pellach

golygu