Gŵyl Fihangel

gŵyl Gristnogol

Gŵyl Mihangel neu Gŵyl Fihangel yw gŵyl Gristnogol y Seintiau Mihangel, Gabriel, a Raphael, a chaiff ei hadnabod hefyd fel Gŵyl Mihangel Sant a'r Holl Angylion neu Ŵyl yr Archangylion. Fe'i ceir mewn llawer o galendrau litwrgïaidd ar 29 Medi (Cristnogaeth y Gorllewin) ac ar 8 Tachwedd yn nhraddodiadau Cristnogol y Dwyrain. Bu Gŵyl Mihangel yn un o bedwar diwrnod chwarterol y flwyddyn ariannol, barnwrol ac academaidd yng Nghymru, yr Alban, Lloegr ac Iwerddon, ond i raddau llai yn yr 21g.[1] Arferid dathlu Hen Ŵyl Mihangel ar 11 Hydref – ac mae’r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau’n ganlyniad i’r newid o galendr Iŵl i galendr Gregori.

Gŵyl Fihangel
Enghraifft o'r canlynoldydd gŵyl Cristnogol, gŵyl grefyddol, gŵyl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Mihangel yn Archangel yn nhraddodiadau Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Gyda Gabriel, Raphael, Uriel ac eraill, mae'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw ac mae'n barod i gael ei anfon fel negesyddion at y ddynolryw. Gyda Gabriel mae'n gwarchod drysau eglwysi rhag y Diafol. Yn Islam, Mikail (Mihangel) yw'r archangel sy'n cael ei anfon gan Allah i ddatgelu'r Corân i'r Proffwyd Muhammad.

Cysegrwyd nifer fawr o eglwysi yng Nghymru i Fihangel; gweler Llanfihangel am restr o bentrefi, cymunedau a phlwyfi sy'n dwyn ei enw.

Yng Nghymru arferid dathlu'r diwrnod gyda ffeiriau cyflogi a thalu dyledion, ond nid oedd yn rhaid i'r ffair fod ar y 29 Medi, fel y gwelwn yn nyddiadur y gwleidydd Lloyd George, Llanystumdwy ar 22 Hydref 1885: rainy & slushy; cold – up 7 – to Criccieth Gwyl Mihangel Fair. Ac yn nyddiadur Edward Evans, Parsele, Sir Benfro ar gyfer 9 Hydref 1851 mae'n cofnodi: Thomas a finnau yn Glandro [gweithio cyfrifon?] a pharatoi pethau erbyn yfory, sef Ffair Mihangel yn Fathry. Efallai mai'r rheswm dros y gwahanol ddyddiadau dathlu yw fod yr hen Ŵyl Mihangel ar 11 Hydref – ac mae’r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau’n ganlyniad i’r newid o galendr Iŵl i galendr Gregori. Byddai ffair Llanystumdwy, felly, hanner ffordd rhwng yr hen ddyddiad a'r dyddiad newydd.

Mae'r dyddiad felly'n syrthio ychydig wedi Cyhydnos yr Hydref (sef Alban Elfed).

blodyn Mihangel

Dathliadau

golygu

Ar An t-Eilean Sgitheanach (sef yr Ynys Skye), yn yr Alban, arferwyd cynnal gorymdaith ar y dydd hwn.[2]

Un o'r ychydig flodau i flodeuo yr adeg hon o'r flwyddyn yng Nghymru yw blodyn Mihangel (sy'n cael ei adnabod hefyd fel 'Ffarwel Haf', neu aster yn Lladin).[3]

Yn Iwerddon, cynhaliwyd pererindod i ffynhonnau sanctaidd yn gysylltiedig â Sant Mihangel (a elwid yn y Wyddeleg yn Fómhar na nGéanna), gyda phererinion yn yfed dŵr sanctaidd y ffynhonnau lleol. Roedd y cyfarchiad "Boed Sant Mihangel yn féinín arnoch" yn draddodiadol hefyd. Roedd bechgyn a anwyd ar y diwrnod hwn yn aml yn cael eu bedyddio'n Michael neu'n Micheál. Yn Tramore, Swydd Waterford, cariwyd delw o Sant Mihangel, a elwid y Micilín, mewn gorymdaith drwy'r dref i lan yr afon, i nodi diwedd y tymor pysgota. Yn llên gwerin Iwerddon, roedd tywydd clir ar Ŵyl Mihangel yn arwydd o aeaf hir, "Os bydd Dydd Mihangel yn braf a chlir, yna bydd dau aeaf yn y flwyddyn."[4]

Mae pryd traddodiadol yr ŵyl yn cynnwys gŵydd a elwir yn ŵydd sofl sef un a baratowyd tuag amser y cynhaeaf, wedi'i besgi ar y caeau sofl sef y bonion oedd yn weddill[5][6][7]. Roedd yna ddywediad Saesneg, sydd o'i gyfieithu yn golygu "os bwytewch ŵydd ar Ddydd Gŵyl Mihangel fyddwch chi byth yn brin o arian trwy'r flwyddyn".[6] Weithiau byddai tyddynwyr yn cyflwyno’r gwyddau i’w tirfeddiannwyr (y landlordiaid), fel a nodwyd yn y cytundebau tenantiaeth. Mae'r arferiad hwn yn dyddio o leiaf o'r 15g.[6]

Roedd arferiad o bobi bara neu deisen neilltuol, a elwir gan rai'n Iwerddon yn Sruthan Mhicheil (bannog Mihangel) ar noswyl Mihangel. Mae'n debyg mai o Ynysoedd Heledd y tarddodd hyn. Gwnaed y bara o ddarnau cyfartal o haidd, ceirch, a rhyg heb ddefnyddio unrhyw offer metel.[8] Gwnaed hyn i gofio am gyfeillion absennol, neu y rhai a fuont farw, a rhoddwyd torthau Struthan, wedi eu bendithio mewn Offeren foreol, i'r tlodion.[9]

Yr hen Ŵyl Mihangel

golygu

Roedd yr hen Ŵyl Mihangel ar 11 Hydref (10 Hydref yn ôl rhai ffynonellau – ac mae’r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau’n ganlyniad i’r newid o galendr Iŵl i galendr Gregori felly mae’r bwlch yn ehangu o ddiwrnod bob canrif ac eithrio’r un presennol). Dywedir i'r Diafol adael y Nefoedd ar y dyddiad hwn, a syrthio i lwyn mwyar duon, gan felltithio'r ffrwyth wrth iddo ddisgyn. Yn ôl hen chwedl, ni ddylid pigo mwyar duon ar ôl y dyddiad hwn. Yn Swydd Efrog, dywedir i'r diafol boeri ar y mwyar duon. Yn ôl Morrell (1977), mae'r hen chwedl hon yn adnabyddus ym mhob rhan o wledydd Prydain, hyd yn oed mor bell i'r gogledd ag Ynysoedd Erch. Yng Nghernyw, ceir chwedl gyffelyb lle dywedir bod y diafol wedi piso arnynt.[10]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Philip's Encyclopedia. Philip's. 2008. t. 511. ISBN 978-0-540-09451-6.
  2. "Catholic Encyclopedia: St. Michael the Archangel". Newadvent.org. 1 Hydref 1911. Cyrchwyd 29 Medi 2015.
  3. "Y Bywiadur". Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd. 30 Medi 2024. Cyrchwyd 30 Medi 2024.
  4. McGarry, Marion (27 Medi 2019). "Geese, daisies and debts: Michaelmas customs in Ireland of old". RTÉ Brainstorm. Cyrchwyd 29 Medi 2020.
  5. "Are we ready to embrace the Michaelmas goose once again?". BBC News. 29 Medi 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Hydref 2012. Cyrchwyd 28 Medi 2017.
  6. 6.0 6.1 6.2 Simpson, Jacqueline; Roud, Stephen (2001). A dictionary of English folklore. Oxford paperback reference. Oxford New York: Oxford University Press. t. 237. ISBN 978-0-19-860398-6.
  7. Mahon, Bríd (1998). Land of Milk and Honey : The story of traditional Irish food and drink. Dublin, IE: Mercier Press. tt. 135–137. ISBN 1-85635-210-2. OCLC 39935389.
  8. Oulton, Randal W. (13 Mai 2007). "Michaelmas Bannock". Cooksinfo.com. Cyrchwyd 29 Medi 2015.
  9. Goldman, Marcy (c. 2014). "Peter Reinhart's struan: The harvest bread of Michaelmas". BetterBaking.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2014. Cyrchwyd 13 Mai 2015.
  10. Rob Taylor (7 Hydref 2010). "Michaelmas Traditions". Black Country Bugle. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Medi 2015. Cyrchwyd 29 Medi 2015.

Darllen pellach

golygu

Dolenni allanol

golygu