Sion Trefor (m. 1589)
Uchelwr Cymreig a milwr ym myddin Harri VIII oedd Sion Trefor (hefyd John Trevor) a fu farw ym Mehefin 1589. Roedd yn or-ŵyr i Syr Richard Trefor (fl. 1500), 4ydd mab John Trevor "hên" a'r 19eg yn ei ddisgyniad o dad i dad o Tudur Trefor (gw. Trevor, Brynkynallt), a gawsai'r ystad trwy briodas Mallt, aeres Dafydd ap Gruffydd, Allington (m. 1476 ). Yn 1574 roedd yn parhau i lynnu wrth grefydd Rhufain, er gwaethaf Diwygiad Protestannaidd Lloegr.
Sion Trefor | |
---|---|
Beddrod Sion yn Eglwys yr Holl Seintiau, Gresffordd ger Wrecsam. | |
Ganwyd | Yr Orsedd |
Bu farw | 15 Gorffennaf 1589, 1589 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | milwr |
Tad | John Trevor |
Mam | Ann Broghton |
Priod | Mary Bruges |
Plant | Sion Trevor, Richard Trefor, Sackville Trevor, Winifred Trevor, Thomas Trevor |
Mae Sion Trefor yn fwyaf nodedig, efallai, am godi Trefalun (neu Drefalyn) yn 1576, ym mhentref Yr Orsedd (Rossett) yn ardal Maelor, plasty enfawr ac am fod yn dad i rai o uchelwyr mwyaf pwerus gogledd-ddwyrain Cymru.
Bu'n ymladd yn rhyfeloedd Harri VIII yn Ffrainc, gyda theulu pwerus Sackville yn ei noddi.[1]
Beddrod
golyguBu farw, fel y nodir ar ei gofeb yn "Lhundain" (Llundain) ond roedd wedi gorchymyn i'w gorff gael ei ddychwelyd i Faelor i'w gladdu gyda chyrff ei hynafiaid. Mae ei gofeb alabaster yn Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd, yn hynod a chain, gyda thestun uniaith Gymraeg yn nodi manylion ei fywyd a'i ddisgynyddion. Noda'r feddrodgre:
- Sion Trevor, Trevalyn. Ysgweier y 19 o dad i dad o Dudur Trefor, a fu farw yn Lhundain y mis Mehevin 1589. Ei escyrn ef, ei vab a'i aer Syr Richard Trevor a barodd eu mudo i'r feddrod honn i orphwys gyda'i henafiaid, fel wrth ymado a'r byd y dymunodd.
Blynyddoedd ei ieincktid a drosfwriodd ef yn Rhyveloedd Frainck dann Vrenin Henry 8. Ei ganol-fyd gyfoesodd ef yn ymdaith deirth-wledydd. Ei ddiwedd-oes a gartrefodd ef yn Llywodraeth a gwasanaeth ei enedigaeth wlad.
Ef a briododd Mary, merch George Bridges, Ysgweiar, ag a fu iddo o honi bump o veibion a dwy o verched, sef..
- Syr Richard Trevor, Marchog Depvi y l'tenant (Dirprwy-raglaw?) y Sir honn yr hwn a briododd Katrin, merch Roesier Puleston o Emral, Ysgweier, f(ab?) Syr Edward Puleston, Marchog
- Sion Trevor, Golygwr ar Lynges ardderchawg y Frenhines, yr hwn a briododd Marged merch Hywel Trevanian o (?)arihays yn Gernyw, Ysgweier, vab Syr Hyw Trevanian, Marchog ar ôl ei dad.
- Rondl Trevor, a fu farw yn gyvagos ar ôl ei dad
- Sackvil Trevor, Capten vn amryw o Longau'r Vrenhines
- Tomas Trevor, Myfyriwr y Gyfraith
- Winiffred a briodes Edward Puleston o Aivnton Ysgweier ag
- Ermin a briodes Robert Lloid o I(?)ersedd Ysgweier.
Y teulu Trefor
golyguCeir sawl aelod dylanwadol iawn o'r teulu gan gynnwys (yn nhrefn dyddiad marw):
- Richard Trefor (m. 1614), aelod o Doctors’ Commons (18 Chwefror 1598), a barnwr yn llys y llynges, i John Trevor ( Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).[2]
- Syr John Trefor I (m. 1630), gweinydd y llynges a gwleidydd.
- Syr Sackville Trefor (c.1565-1633), morwr.
- Syr Richard Trefor (1558 - 1638), milwr, gwleidydd a gweinyddwr yn Iwerddon.
- John Trevor (g. c. 1652).
- Syr Thomas Trefor (1572 - 1656), barnwr.
- Syr John Trevor II (1596–1673), seneddwr.
- Syr John Trefor III (1626 - 1672), ysgrifennydd y wladwriaeth.
- Syr Thomas Trefor (1612 - 1676), cyfrifydd y Duchy of Lancaster.
- Richard Trefor (m. 1676), hynafiaethydd .
- Thomas Trefor (1658 - 1750), y barwn Trefor (o Drefalun) 1af, a barnwr.
- Richard Trefor (1707 - 1771), esgob Tyddewi a Durham.
Gweler hefyd
golygu- Trefor, Wrecsam
- Ieuan Trefor I - Clerigwr Cymreig oedd Ieuan Trefor I (bu farw 1357), a wasanaethodd fel Esgob Llanelwy o 1346 hyd ei farw yn 1357.
- Ieuan Trefor II - Esgob Llanelwy rhwng 1394 a 1408 ac awdur Cymraeg
- George Rice-Trevor, 4ydd Barwn Dinefwr - (1795 – 1869); AS
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ (Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).