Teulu Salusbury
Tirfeddianwyr cyfoethog yn ardal Dyffryn Clwyd oedd y teulu Salusbury neu'r Salbriaid (neu Salisbury, Salsbri, Salesbury neu Salbri).
HanesGolygu
Syr John Salusbury (marw 1289) mae'n debyg oedd y cyntaf; ef a sefydlodd Brodordy Dinbych, priordy Carmelaidd yn nhref Dinbych. Sefydlodd nifer o'i ddisgynyddion deuluoedd dylanwadol, uchelwrol a Chymreig iawn megis Lleweni (Dinbych) a'r Rug (Corwen).
Syr John Salusbury (m. 1566) neu 'Siôn Salsbri o Leweni' (marw yn 1566) oedd gŵr cyntaf Catrin o Ferain. Dienyddiwyd eu mab hynaf Thomas (1564 - 1586) am fod yn rhan yng Nghynllwyn Babington i ddiorseddu Elisabeth I, brenhines Lloegr a choroni Mari, Brenhines yr Alban. Roedd mab arall John (1567 - 1612) yn fardd Saesneg cynhyrchiol ac yn perthyn i gylch o ddeallusion a oedd yn cynnwys Syr Walter Raleigh.
Roedd un o gyfieithwyr y Beibl, sef William Salesbury hefyd yn perthyn i'r teulu yn ogystal a'r gramadegydd Henry Salusbury. Ymhlith aelodau eraill y teulu roedd y llenor a gwleidydd Syr Thomas Salusbury (1612-1643) o'r Waun a'r Cyrnol William Salesbury o Fachymbyd (llysenw: "Yr Hen Hosannau Gleision") a gynhaliodd warchae ar Gastell Dinbych yn 1646.
Daeth llinach wrywaidd teulu Lleweni i ben yn 1684 a daeth llinach wrywaidd cangen y Rug i ben yn 1658 a daeth y stâd yn ddiweddarach yn eiddo i Wynniaid Glynllifon.
Aelodau nodedig o'r teuluGolygu
- John Salusbury (m. 1566) neu 'Siôn Salsbri o Leweni' (marw yn 1566); gŵr cyntaf Catrin o Ferain
- Thomas Salusbury (ganed 1564), mab hynaf Catrin o Ferain a John Salusbury (m. 1566)
- Thomas Salusbury (ganed 1612), Uchelwr Cymreig ac awdur Saesneg
Gweler hefydGolygu
- Bachymbyd, plasty ger Rhuthun a sefdlwyd gan Pyrs Salbri
- Robert Salbri, bardd
- Hester Thrale, awdures a chyfaill i Samuel Johnson
- Cefn Berain
- Bachegraig, plasty Syr Rhisiart Clwch
- Salbri, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar Ynys Môn.