Ricky Valance
Canwr Cymreig oedd Ricky Valance (10 Ebrill 1936 – 12 Mehefin 2020).[1][2] Roedd yn fwyaf enwog am ei sengl aeth i rif un yn y siartiau gyda'r gân "Tell Laura I Love Her", a werthodd dros filiwn o gopïau yn 1960.[3]
Ricky Valance | |
---|---|
Ganwyd | David Spencer 10 Ebrill 1936 Ynys-ddu |
Bu farw | 12 Mehefin 2020 o gorddryswch |
Label recordio | Columbia Graphophone Company |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Gwefan | http://www.rickyvalance.com |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd David Spencer yn Ynys-ddu ger Wattsville, Sir Fynwy, yr hynaf o saith plentyn.[3] Ymunodd a'r RAF pan oedd yn 17.[3]
Dechreuodd ei yrfa gerddorol pan adawodd y lluoedd arfog.[3] Dechreuodd berfformio mewn clybiau lleol am gwpl o flynyddoedd cyn iddo gael ei ddarganfod gan gynrychiolydd A&R o EMI, a fe'i rhoddwyd gyda'r cynhyrchydd recordiau Norrie Paramor a fe'i harwyddwyd i label Columba ar EMI.[4]
Gyrfa
golyguErbyn 1960 roedd yn defnyddio'r enw Ricky Valance. Roedd wedi penderfynu ar yr enw cyntaf, a gwelodd hyfforddwr ceffylau ar y teledu o'r enw Colonel Valance.[5]
Yn y sesiwn recordio cyntaf, cafodd Valance gyfle i recordio'r gân boblogaidd Americanaidd, Tell Laura I Love Her".[4] Aeth i frig y siartiau yn Medi 1960, drwy gael ei chwarae yn gyson ar Radio Luxembourg.[4][6]
Fe roedd y BBC yn gwrthod chwarae caneuon trychineb arddegau fel Tell Laura I Love Her. Ni chafodd llawer o recordiau Americanaidd tebyg ei ryddhau o gwbl yn Y Deyrnas Unedig.[7]
Rhif un yn y siartiau
golyguNi chafodd fersiwn wreiddiol Ray Peterson o "Tell Laura I Love Her", a chyd-ysgrifennwyd gyda Jeff Barry, ei ryddhau yn Y Deyrnas Unedig, oherwydd bod Recordiau Decca yn teimlo ei fod yn ddi-chwaeth.[7] Yn dilyn hyn trefnodd EMI i Valance recordio'r gân.[3] Ac felly y daeth Valance i fod y Cymro gwrywaidd cyntaf i gyrraedd y brig - gan mai Shirley Bassey oedd y Gymraes gyntaf.
Ar ôl mynd i frig Siart Senglau y DU, fe ymddangosodd Valance ar gystadleuaeth A Song For Europe 1961, gan obeithio cynrychioli gwledydd Prydain yng Nghystadleuaeth Eurovision. Daeth ei gân, "Why Can't We?", yn drydydd allan o naw cynnig; a'r enillydd oedd "Are You Sure?" berfformiwyd gan the Allisons.
Fe ryddhawyd senglau pellach yn cynnwys "Movin' Away", "Jimmy's Girl" a "Six Boys".[3] Gwerthwyd dros 100,000 copi o "Jimmy´s Girl", ac fe aeth "Moving Away" i rif un yn Awstralia a Scandinavia, gan werthu dros 150,000 o gopïau. Am nad oedd yn gallu atgynhyrchu ei lwyddiant cychwynnol yn siart y DU, mae'n aros felly yn seren wîb.
Gyrfa hwyrach
golyguYn 2001, recordiodd albwm One of the Best yn Nashville, Tennessee.
Daeth nôl i wledydd Prydain yn 2015 ac roedd yn gobeithio ail-gysylltu gyda'i wreiddiau Cymreig gan ystyried trefnu taith o gwmpas Cymru.[8] Mewn cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2015, derbyniodd wobr am fod y Cymro gwrywaidd cyntaf i cael Rhif Un yn y siartiau a canodd yno ar y noson.
Yn 2017 ryddhaodd ei gân olaf cyn ymddeol. Cyhoeddwyd "Welcome Home" i godi arian at Gymdeithas yr RAF ac Amgueddfa yr RAF.[5]
Bywyd personol
golyguAeth Valance i fyw yn Cabo Roig ar gyrion Torrevieja, y Costa Blanca yn Sbaen, lle roedd yn dal i berfformio yn rheolaidd. Roedd ganddo dy hefyd ym Mlaenau Gwent yng Nghymru. Cafodd drawiad ar y galon yn y 2015.
Erbyn 2017 roedd yn byw gyda'i wraig yn Skegness.[5]
Bu farw ar 12 Mehefin 2020. Roedd yn 84 mlwydd oed, ac wedi bod yn yr ysbyty gyda dementia yn y misoedd cyn ei farwolaeth. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Santes Fair yn Goldington, Bedfordshire ar 13 Gorffennaf 2020.[9][10]
Disgyddiaeth
golyguSenglau DU
golyguColumbia
golygu- DB4493 - "Tell Laura I Love Her" / "Once Upon a Time" (1960)
- DB4543 - "Movin' Away" / "Lipstick on Your Lips" (1960)
- DB4586 - "Jimmy's Girl" / "Only the Young" (1961)
- DB4592 - "Why Can't We" / "Fisherboy" (1961)
- DB4680 - "Bobby" / "I Want to Fall in Love" (1961)
- DB4725 - "I Never Had a Chance" / "It's Not True" (1961)
- DB4787 - "Try to Forget Her" / "At Times Like These" (1962)
- DB4864 - "Don't Play No.9" / "Till the Final Curtain Falls" (1962)
Decca
golygu- F12129 - "Six Boys" / "A Face in the Crowd" (1965)
Crystal
golygu- CR7004 - "Abigail" / "My Summer Love" (1969) (as Jason Merryweather)
Tank
golygu- BSS313 - "Hello Mary Lou" / "Walking in the Sunshine" (1978)
Umbrella
golygu- UMO111 - "Daddy's Little Girl" / "Ticket to Dream" (1988)
One Media iP
golygu- "Welcome Home" / "Tell Laura I Love Her" (55th Anniversary Edition) (2016)[11]
Albymau DU
golyguHis Master's Voice
golygu- CLP1497 - The Two Sides of John Leyton (1961)
- CLP1664 - Always Yours (1963)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The first Welshman to have a number one hit has recorded his last song , WalesOnline, 11 Mawrth 2017. Cyrchwyd ar 12 Mehefin 2020.
- ↑ Tell Laura I Love Her (Ricky Valance). Jon Kutner (26 Mai 2019). Adalwyd ar 12 Mehefin 2020.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 "BBC Wales - Music - Ricky Valance". Bbc.co.uk. 2009-07-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-01-06. Cyrchwyd 2014-01-28.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "Ricky Valance Biography - Music Artist Band Biographies - Artists Bands Bio - FREE MP3 Downloads". Music.us. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-12. Cyrchwyd 2014-01-28.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Gwall Templed: Mae paramedr teitl yn orfodol.
- ↑ Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums (arg. 19th). London: Guinness World Records Limited. t. 579. ISBN 1-904994-10-5.
- ↑ 7.0 7.1 Rice, Jo (1982). The Guinness Book of 500 Number One Hits (arg. 1st). Enfield, Middlesex: Guinness Superlatives Ltd. t. 53. ISBN 0-85112-250-7.
- ↑ Sixties chart topper who made rock and roll history wants to reconnect with his Welsh roots; WalesOnline; Adalwyd 2015-12-15
- ↑ "Seventies star Ricky Valance passes away in Spain". The Leader. 12 Mehefin 2020.
- ↑ "Sixties singing star Ricky Valance laid to rest in Bedfordshire". ITV Anglia News. 13 Gorffennaf 2020.
- ↑ "Welcome Home – Single by Ricky Valance on Apple Music". iTunes Store. 1 Mawrth 2017. Cyrchwyd 17 Mawrth 2017.