Ringo Starr
drymiwr (1940- )
Cerddor, canwr, cyfansoddwr ac actor Seisnig yw Ringo Starr MBE (ganwyd Richard Starkey, 7 Gorffennaf 1940). Mae'n fwyaf adnabyddus fel drymiwr Y Beatles. Ef oedd yr olaf i ymuno â'r "Fab Four" ac ef yw aelod hynaf y band.
Ringo Starr | |
---|---|
Ffugenw | Ringo Starr |
Llais | Ringo Starr BBC Radio4 Front Row 31 Dec 2008 b00g4c59.flac |
Ganwyd | Richard Starkey 7 Gorffennaf 1940 Lerpwl, Dingle |
Label recordio | Apple Records, United Artists Records, Capitol Records, Swan, Vee-Jay Records, Atlantic Records, Entertainment One Music, Parlophone Records, Polydor Records, RCA, Mercury Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | actor, drymiwr, cyfansoddwr, actor llais, canwr-gyfansoddwr, actor ffilm, canwr, cerddor, arlunydd, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, gitarydd, golygydd ffilm, enwog, cyfarwyddwr ffilm |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc poblogaidd, cerddoriaeth boblogaidd |
Math o lais | bariton |
Tad | Richard Henry Parkin Starkey |
Mam | Elsie Starkey |
Priod | Maureen Starkey Tigrett, Barbara Bach |
Partner | Shelley Duvall, Nancy Lee Andrews |
Plant | Lee Starkey, Zak Starkey, Jason Starkey |
Gwobr/au | MBE, Gwobr yr Academi am y Sgôr Wreiddiol Gorau, Rock and Roll Hall of Fame, Commandeur des Arts et des Lettres, Marchog Faglor, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, honorary doctor of the Berklee College of Music |
Gwefan | http://www.ringostarr.com |
llofnod | |
Gweithiodd Starr fel drymiwr a lleisydd cefndirol i'r Beatles yn bennaf, ond llwyddodd fel cyfansoddwr hefyd gyda chaneuon fel "Don't Pass Me By" ac "Octopus's Garden". Ef oedd y prif leisydd ar ganeuon fel "Yellow Submarine", "With a Little Help from My Friends", "What Goes On", a "Good Night". Cafodd lwyddiant hefyd yn ei yrfa unigol gyda chaneuon fel "It Don't Come Easy", "Photograph" a "You're Sixteen".