Robert Bryan
cyfansoddwr a aned yn 1858
Bardd Cymraeg, llenor a cherddor o blwyf Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych oedd Robert Bryan (6 Medi 1858 – 5 Mai 1920).[1] Roedd yn frawd i J. D. Bryan, awdur llyfr taith bychan am yr Aifft.
Robert Bryan | |
---|---|
Ganwyd | 6 Medi 1858 Llanarmon-yn-Iâl |
Bu farw | 5 Mai 1920 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyfansoddwr |
Cafodd Bryan ei addysg golegol yng Ngholeg y Normal, Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru a Rhydychen.
Cyhoeddodd dwy gyfrol o gerddi: Odlau Cân, casgiad o delynegion, a Tua'r Wawr, a gyhoeddwyd ar ôl ei farw. Ysgrifennodd nifer o erthyglau ar bynciau amrywiol i gylchgronau O. M. Edwards, yn enwedig Y Llenor.
Roedd yn gyfansoddwr dawnus a gyfansoddodd nifer o ddarnau cerddorol. Golygodd ddau ddetholiad o ganeuon dan y teitl Alawon y Celt.
Llyfryddiaeth
golyguCerddi
golygu- Odlau Cân (Llanuwchllyn, 1901)
- Tua'r Wawr (1921)
Cerddoriaeth
golyguFel golygydd:
- Alawon y Celt (dwy gyfrol)