Robert Lambert Gapper

arlunydd o Gymro

Cerflunydd a darlithydd Celf o Gymru oedd Robert Lambert Gapper neu R L Gapper (ganwyd 15 Ebrill 1897 Llanaelhaearn, Gwynedd - 1984). Dyluniodd logo Urdd Gobaith Cymru.

Robert Lambert Gapper
Ganwyd1897 Edit this on Wikidata
Llanaelhaearn Edit this on Wikidata
Bu farw1984 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Caiff ei ystyried yn un o brif cerflunwyr Cymru yn yr 20g a chafodd ei anrhydeddu am ei waith dros gelf Cymreig gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn gynnar yn ei yrfa pan wahoddwyd ef i fod yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod yn 1930, a'r Llys yn ddiweddarach.[1] Roedd hefyd yn aelod o Gyngor Urdd Gobaith Cymru.

Gwenithfaen a llechen oedd ei hoff gyfrwng ac ar adegau defnyddiai efydd a phren. Lluniodd lawer o gofebau, cerrig beddau, penddelwau a dodrefn eglwysig a hynny gyda defnyddiau lleol. Lluniodd hefyd lawer o offer neu ddodrefn eisteddfodol gan gynnwys medalau, tystysgrifau a theyrndlysau. Gweithiai'n ddieithriad i gomisiwn. Yn 1934 cafodd ei wneud yn Brif-ddarlithydd Celf ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu yno hyd at 1962.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. www.archiveswales.org.uk / Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 25 Ebrill 2015
  2. museum.aber.ac.uk; adalwyd 17 Mawrth 2017.