Robert Morris (diwydiannwr)

diwydiannwr

Diwydiannwr o Drefesgob, Swydd Amwythig, oedd Robert Morris (bu farw 1768). Prynodd waith copr yng Nglandŵr, Abertawe. Fe adeiladodd ar gyfer ei weithwyr y bloc o fflatiau cyntaf yng Nghymru, sef Castell Graig neu Gastell Morris. Roedd y Castell yn lletya deugain teulu yn ogystal â theilwr a chrydd. Yn dilyn ei lwyddiant fe gododd blasty moethus ger Llangyfelach a'i alw'n Clasemont.[1] Roedd Syr John Morris yn fab iddo.

Robert Morris
Ganwyd1701, Unknown Edit this on Wikidata
Bu farw1768 Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwydiannwr Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau

golygu
  1. D. Densil Morgan, Y Weledigaeth Hon: Hanes Bedyddwyr Treforus (Abertawe, 1995), t. 9