Robert Rhys
Academydd a golygydd yw Robert Rhys. Bu'n olygydd ar gylchrawn Barn ar ddau achlysur ac mae'n gadeirydd y cwmni sy’n cyhoeddi’r cylchgrawn.[1]
Robert Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 1953 Llangyndeyrn |
Man preswyl | Porth-y-rhyd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd, golygydd |
Cysylltir gyda | Barn |
Bywyd personol
golyguGanwyd 1953) ym mhlwyf Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin, a'i addysgu yn Ysgol Gynradd Llanddarog, Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerfyrddin, a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor. Mae bellach yn byw ym Mhorth-y-rhyd, Cwm Gwendraeth Fach, Sir Gaerfyrddin.
Academydd
golyguBu'n dysgu cyrsiau ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg ac ar ddiwylliant Cymru ym Mhrifysgol Prifysgol Abertawe rhwng 1978 a 2018.[1] Llenyddiaeth ddiweddar yw ei brif faes fel addysgwr a beirniad. Cyhoeddodd gyfrolau ar Waldo Williams, Daniel Owen a James Hughes (Iago Trichrug). Ar y cyd ag Alan Llwyd golygodd gasgliad o holl gerddi hysbys Waldo Williams. Bu'n ymchwilio i fywyd a gwaith D. J. Williams, Abergwaun, ers rhai blynyddoedd, a chyhoeddodd rai deunyddiau ar y wefan cofiant D. J. Williams.[2]
Golygydd
golyguBu'n olygydd Yr Adferwr, cylchgrawn Mudiad Adfer, rhwng 1975 a 1978; ar y pryd roedd yn fyfyriwr ymchwil a bu'n byw yn Groesffordd Llanddoged a Melin-y-coed ger Llanrwst. Ar ôl cael swydd ym Mhrifysgol Abertawe yn 1978 symudodd yn ôl i fyw i Gwm Gwendraeth Fach. Bu'n rhan o dîm golygyddol Barn am gyfnod byr, ar y cyd ag Ifor ap Gwilym ac Alan Llwyd (y ddau'n gweithio i'r cyhoeddwyr, Christopher Davies, yn Abertawe) a Gwynn ap Gwilym. Yn 1981 roedd yn un o'r criw a sefydlodd bapur bro Cwm Gwendraeth Fach, Papur y Cwm, a bu'n olygydd rhwng 1981 a 1986. Ef a gofnododd hanes y frwydr i achub Cwm Gwendraeth Fach yn y gyfrol Cloi'r Clwydi, a gyhoeddwyd yn 1983. Rhoddodd y gorau i olygu Papur y Cwm yn 1986 er mwyn ailafael yn ei gysylltiad â Barn y tro hwn fel golygydd a oedd hefyd yn gyfrifol am reoli'r cylchgrawn. Llwyddwyd i ennill cefnogaeth bellach gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn y cyfnod hwn a rhoes y gorau i'r olygyddiaeth yn 1991; ers hynny bu iddo swyddogaeth greiddiol fel Cyfarwyddwr Cyhoeddi a chadeirydd y cwmni.
Ffydd
golyguDaeth yn Gristion yn 1984. Ymrwymodd i'r eglwys efengylaidd yng Nghaerfyrddin ac roedd yn un o'r aelodau a sefydlodd eglwys efengylaidd Gymraeg annibynnol yn y dref yn 1989. Mae bellach yn henuriad yn yr eglwys ac yn pregethu'n rheolaidd. Bu'n olygydd Y Cylchgrawn Efengylaidd rhwng 1996 a 2010.
Cyfeiriadau
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Rhys, Robert (1983), Cloi'r Clwydi(Llangyndeyrn: Cymdeithas Les Llangyndeyrn)
- Rhys, Robert (1992), Chwilio am Nodau'r Gân: Astudiaeth o Yrfa Lenyddol Waldo Williams hyd at 1939 (Llandysul: Gwasg Gomer)
- Rhys, Robert (2000), Dawn Dweud: Daniel Owen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
- Rhys, Robert (2007), James Hughes, 'Iago Trichrug' (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn)
- Llwyd, Alan a Rhys, Robert (2014), Waldo Williams: Cerddi 1922-1970 (Llandysul: Gwasg Gomer)
- www.eglwyscaerfyrddin.org
- www.barn.cymru
- www.cofiantdj.net