Robert Stevenson (peiriannydd sifil)
Peiriannydd sifil o'r Alban oedd Robert Stevenson (8 Mehefin 1772 – 12 Gorffennaf 1850). Mae'n enwog fel cynllunydd ac adeiladwr goleudai.
Robert Stevenson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
8 Mehefin 1772 ![]() Glasgow ![]() |
Bu farw |
12 Gorffennaf 1850 ![]() Caeredin ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
peiriannydd, peiriannydd sifil, dyfeisiwr ![]() |
Adnabyddus am |
Goleudy Bell Rock ![]() |
Tad |
Alan Stevenson ![]() |
Mam |
Jean Lillie ![]() |
Priod |
Jane Smith ![]() |
Plant |
David Stevenson, Alan Stevenson, Thomas Stevenson ![]() |
Gwobr/au |
Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin ![]() |
Am y peiriannydd sifil o Sais, gweler Robert Stephenson.
Fe'i ganwyd yn Glasgow. Yn ei arddegau daeth yn gynorthwywr i'w lystad, Thomas Smith, a oedd yn beiriannydd i'r Northern Lighthouse Board (Bwrdd Goleudai Gogleddol), a sefydlwyd yn ddiweddar i adeiladu a gweithredu goleudai'r Alban. Dilynodd Stevenson ei lystad yn y swyddfa honno ym 1797 a pharhaodd ynddi hyd 1842. Yn ystod yr amser hwnnw goruchwyliodd waith adeiladu a gwella llawer o goleudai. Cynlluniodd hefyd nifer o bontydd. Ei gyflawniad mwyaf oedd adeiladu Goleudy Bell Rock ym Môr y Gogledd oddi ar arfordir Angus – prosiect hynod o anodd a pheryglus.