Robert Stephenson
Peiriannydd sifil o Sais oedd Robert Stephenson (16 Hydref 1803 – 12 Hydref 1859). Roedd yn fab i'r peiriannydd rheilffordd George Stephenson (1781–1848).
Robert Stephenson | |
---|---|
Ganwyd | 16 Hydref 1803 Willington Quay |
Bu farw | 12 Hydref 1859 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, gwleidydd, peiriannydd rheilffyrdd |
Swydd | Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Adnabyddus am | High Level Bridge, Pont Reilffordd Conwy |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | George Stephenson |
Mam | Frances Henderson |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Chevalier de la Légion d'Honneur, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Ar ôl treulio cyfnod fel prentis i arolygydd gwaith glo yn Killingworth cafodd ei anfon i astudio ym Mhrifysgol Caeredin am chwe mis yn 1822. Yn 1823 cynorthwyodd ei dad i wneud arolwg o Reilffordd Stockton a Darlington. Treuliodd gyfnod o dair blynedd yng Ngholombia cyn dychwelyd i redeg ffatri injan reilffordd ei dad yn Newcastle.
Daeth yn adnabyddus am ei waith ar godi pontydd rheilffordd, gan gynnwys Pont Britannia ar Afon Menai (1850), Pont Reilffordd Conwy ar Afon Conwy (1848), y Royal Border Bridge yn Berwick a phont arall ym Montreal, Canada (1859).
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1847. Fe'i claddwyd yn Abaty Westminster, Llundain.