Robert Wiliam

bardd, amaethwr

Roedd Robert Wiliam, (tua 1743—Medi 1815) o'r Pandy Isaf, Rhiwedog, y Bala yn amaethwr a bardd.[1] Bron y cwbl a wyddys am ei fywgraffiad yw ei gofnod claddu ym mynwent Plwyf Llanfor Robert William Pandy September 2nd 1815 aged 72[2]

Robert Wiliam
Ganwyd1744 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farwAwst 1815 Edit this on Wikidata
Llanfor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ffermwr Edit this on Wikidata

Mae Owen Morgan Edwards yn awgrymu bod Huw Rolant wedi bod yn athro barddol iddo a bod Ioan Tegid wedi bod yn ddisgybl barddol iddo.

Mae rhai o'i gerddi wedi eu cadw yn y llyfr Beirdd y Bala, Cyfres y Fil.

Er gwaethaf y diffyg gwybodaeth amdano, Robert Wiliam oedd awdur un o'r llinellau cynghanedd mwyaf enwog y Gymraeg, a daeth yn ddihareb ac yn slogan Cymdeithas y Beibl yng Nghymru. Llinell olaf Englyn yn ei Awdl i'r Beibl:

Llyfr doeth yn gyfoeth i gyd,—wych lwyddant
A chleddyf yr ysbryd,
A gair Duw Nef yw hefyd,
Beibl i bawb o bobl y byd[3].

Cyfeiriadau golygu

  1. "WILLIAM(S), ROBERT (1744 - 1815), bardd, amaethwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-10-22.
  2. Gwasanaethau Archifau Cymru, Cofrestr Claddu Plwyf Llanfor Cofnod Rhif 85, Tudalen 11, 1815
  3. Beirdd y Bala Y Beibl, ar Wicidestun