Pentref yng nghymuned Llandderfel, Gwynedd, Cymru, ydy Llanfor[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif llai na milltir o'r Bala i gyfeiriad Corwen. Yn hanesyddol bu'n ran o Sir Feirionnydd. Llanfawr oedd enw'r pentref yn wreiddiol, sy'n awgrymu fod y safle'n un pwysig o ran gweithgaredd eglwysig. Cyfeirir at yr eglwys leol fel "Llanfor", a gysegrwyd i Sant Mor ap Ceuneu, ac yna'n ddiweddar Sant Deiniol.[3] Roedd hefyd Frongoch Whiskey Distillery gerllaw ym mhentref Frongoch.

Llanfor
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlandderfel Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.916°N 3.583°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH935366 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[5]

Hanes golygu

Mae hen gaer a gwersyll Rhufeinig wedi ei leoli gerllaw.[6] Yn ôl traddodiad, roedd cylch meini cynhanesyddol a elwid yn "Babell Llywarch Hen" yn sefyll ger yr eglwys.

Ceir yma hefyd Castell mwnt a beili (Cyfeirnod OS: SH 938368) sy'n dyddio yn ôl i'r 11g, mae'n debyg.

Capeli golygu

Mae'r capel wedi ei chysegru i Sant Deiniol. Mae hefyd dwy gapel arall, Sant Marc yn Fron Goch a 'Trinity' yn yr ardal. Gynt roedd hefyd 'Capel Llwyneinion' yn y pentref, sef capel y Methodistiaid Calfinaidd a'i adeiladwyd cyn 1800 a caewyd hi tua 1967.[3]

Eglwys Sant Mor a Sant Deiniol golygu

Ar fapiau'r OS rhwng 1889 a 1901 cofnodir enw'r egwlys fel Sant Mor ond ei henw heddiw yw Sant Deiniol. Caewyd yr eglwys ac yn 2017 gwerthwyd hi i ddatblygwr preifat.[7] Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1874 yn lle'r eglwys Canoloesol a ddisgrifiwyd yn 1874 fel 'eglwys hynafol iawn ond mewn cyflwr gwael.'

Mae gan yr eglwys garreg yn ei thŵr gydag ysgrif o'r 6g:

'Yma y gorwedd Cavo, mab seiargios'.

Mae safle'r eglwys yn agos at olion Rhufeinig (NPRN 95489).

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Ionawr 2022
  3. 3.0 3.1 Llanfawr ar genuki.org.uk
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. Roman Fort, Depot & Camp roman-britain.org[dolen marw]
  7. Gwefan Coflein;[dolen marw] adalwyd 3 Medi 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato