Roddy Hughes

actor Cymreig

Roedd Rhodri Henry "Roddy" Hughes (19 Mehefin, 189122 Chwefror, 1970) yn Actor theatr, ffilm a theledu Cymreig, a ymddangosodd mewn dros 80 o ffilmiau rhwng 1932 a 1961.[1]

Roddy Hughes
Ganwyd19 Mehefin 1891 Edit this on Wikidata
Porthmadog Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1970 Edit this on Wikidata
Sussex Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu, athro Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Hughes ym Mhorthmadog yn fab hynaf y Parchedig Llewelyn Robert Hughes, ficer plwyf Ynyscynhaearn a Maria Elizabeth (née Sweetapple) ei wraig.[2] Roedd ganddo ddau frawd Y Parchedig Ganon Frederick Llewelyn Hughes, Deon Ripon a Hubert Darrell Hughes a laddwyd ym Mesopotamia yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[3] Ym 1898 penodwyd ei dad yn rheithor Llandudno a symudodd y teulu yno i fyw. Cafodd Rhodri Hughes ei addysgu yng Ngholeg Llanymddyfri a Phrifysgol Rhydychen.

Gyrfa golygu

Wedi ymadael a'r brifysgol aeth Hughes i weithio fel athro yn Ysgol Malborough House, Hove.[1] Ers ei blentyndod bu Hughes ymwneud a byd y theatr ac adloniant [4]. Roedd yn aelod o Gymdeithas Drama Amatur Llandudno [5] a pharhaodd ei ddiddordeb trwy ei gyfnod fel myfyriwr ac fel athro. Cafodd ei gyflwyno i'r actor a rheolwr theatr Cyril Maud gan Arglwydd Mostyn a Miss Douglas Pennant. Trwy Maud cafodd cyfle i weithio fel dirprwy actor i Charles Windermere o dan yr enw llwyfan Hugh Rhodri.[6] Fel Hugh Rhodri gafodd un rôl actio, fel y saer cloeon yn Sarah Sleeps Out, yn theatr Aldwich ym mis Medi 1916.[7]

Tarddodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei yrfa actio, ymunodd a'r Corfflu Hedfan Brenhinol (adran awyr y fyddin Brydeinig cyn ffurfio'r Awyrlu Brenhinol) ym 1916. Cafodd dadfyddiniad ar sail iechyd ym 1917 gan ei fod yn dioddef yn arw o asthma.[8] Wedi ymadael a'r fyddin ail afaelodd ar ei yrfa actio, ond gan ddefnyddio'r enw Roddy Hughes, gan fod mynychwyr y theatr yn credu bod Hugh Rhodri yn enw Almaeneg.[6]

Wedi hynny bu'n teithio ledled gwledydd Prydain yn chwarae yn y theatrau rhanbarthol mewn dwsinau o ddramâu a chomedïau cerddorol. Ymysg y dramâu cafodd clod am ei berfformiadau ynddynt bu The Lady and the Rose [9] ym 1922; Frederica ym 1933 [10] a Joy Will Come Back ym 1937 [11]. Bu hefyd yn chware'r brif ran ym mherfformiad cyntaf drama Emlyn Williams Druid's Rest rhwng 1943 a 1944.[12]

Ymysg ei ymddangosiadau cyntaf mewn dramâu radio bu Rhondda Roundabout gan Jack Jones ym 1939.[13] Bu ei ran cyntaf ar y teledu yn y cyfnod cyn i deledu'r BBC cau lawr am gyfnod yr Ail Ryfel Byd, mewn perfformiad byw o A Bedfast Prophet gan Ronald Elwy Mitchell a David Rorie ar 17 Awst 1939.[14]

Ymddangosiad ffilm gyntaf Hughes oedd rhan fach yn Reunion (1932), dan gyfarwyddiad Ivar Campbell.[15] Ei ran sylweddol cyntaf oedd yn Lest We Forget. Mae'r ffilm yn adrodd stori am Sais, Cymro, Gwyddel, ac Albanwr sy'n cael eu dal mewn twll cregyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Maent yn cytuno i aduno ymhen 20 mlynedd - os ydyn nhw dal yn fyw. Ei rôl fwyaf nodedig oedd yn chware rhan Mr. Fezziwig yn Scrooge (1951), addasiad o lyfr Dickens, A Christmas Carol

Teulu golygu

Ym 1931 priododd Winifred Dorothy Smith merch Harry Smith YH, Wood Green, Swydd Rydychen [16]. Ni fu iddynt blant.

Ffilmyddiaeth golygu

Teledu golygu

  • A Bedfast Prophet (BBC, 1939)
  • Men of Darkness (BBC 1948) (addasiad o Les Nuits de la Colère gan Armand Salacrou (1899-1989)
  • The Guardsman (BBC, 1948) gan Ferenc Molnár
  • Ma’s Bit of Brass (BBC, 1948) gan Ronald Gow
  • Alice’s Adventures in Wonderland and Through the Looking-Glass (BBC, 1948)gan Herbert M. Prentice
  • Poison Pen (BBC, 1949) gan Richard Llewellyn
  • Trespass (BBC, 1950) gan Emlyn Williams
  • Mrs Dot (BBC, 1950) gan W. Somerset Maugham
  • The Title (BBC, 1950) gan Arnold Bennett
  • The Morning Star (BBC, 1952) gan Emlyn Williams
  • Mrs Dot (BBC, 1954) adferiad o sioe 1950
  • Poison Pen (BBC, 1956) adferiad o sioe 1950
  • The Dragon and the Dove: How the Hermit Abraham Fought the Devil for his Niece (BBC, 1957) gan James Bridie
  • The Survivors (BBC, 1957) gan Peter Viertel ac Irwin Shaw
  • She Too Was Young (BBC, 1958) gan Laurier Lister a Hilda Vaughan
  • Trespass (BBC, 1958) adferiad o sioe 1950
  • The Bachelor Brothers (BBC, 1960) gan Eynon Evans

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Roddy Hughes ar IMDb
  2. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1901, Ynyscynhaearn. RG13/5261; Ffolio: 84; Tudalen: 44
  3. Prosiect y Rhyfel Mawr Blwyf Llandudno
  4. "LOCAL NEWS - Llandudno Advertiser and List of Visitors". A.G. Pugh. 1906-01-27. Cyrchwyd 2019-12-28.
  5. "Fel Fynnoch - Y Brython". Evans, Sons & Foulkes. 1916-01-27. Cyrchwyd 2019-12-28.
  6. 6.0 6.1 "Cynon Culture - Roddy Hughes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-28. Cyrchwyd 2019-12-28.
  7. J. P. Wearing, The London Stage 1910-1919: A Calendar of Productions, Performers, and Personnel
  8. Yr Archif Genedlaethol War Office and Air Ministry: Service Medal and Award Rolls, First World War. Silver War Badge. RG WO 329, 2958-3255; Cyf: 329
  9. "By the Silver Sea." Daily Telegraph, 8 Awst. 1922, tud. 2. The Telegraph Historical Archive adalwyd 27 Rhagfyr 2019
  10. "Frederica." Sunday Times, 14 Medi. 1930, tud. 4. The Sunday Times Historical Archive adalwyd 27 Rhagfyr 2019
  11. "A Play on Fanny Burney." Daily Mail, 22 Mawrth 1937, tud. 11. Daily Mail Historical Archive, 1896-2004 adalwyd 27 Rhagfyr 2019
  12. A 'Hat Box' Comedy Daily Mail, 27 Ionawr 1944, tud. 3. Daily Mail Historical Archive, 1896-2004 adalwyd 27 Rhagfyr 2019
  13. Broadcasting Programmes Daily Telegraph, 6 Tachwedd. 1939, tud. 4. The Telegraph Historical Archive adalwyd 27 Rhagfyr 2019
  14. BUVF Screen Plays, A Bedfast Prophet adalwyd 27 Rhagfyr 2019
  15. Reunion ar IMDB adalwyd 27 Rhagfyr 2019
  16. "Marriages." Times, 9 Mehefin 1931, tud. 17. The Times Digital Archive adalwyd 27 Rhagfyr. 2019