Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer
Un o Arglwyddi'r Mers ac aelod o deulu pwerus Mortimer oedd Roger Mortimer (1231 – 30 Hydref 1282), Barwn 1af Mortimer.
Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer | |
---|---|
Ganwyd | 1231 |
Bu farw | 1282 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Tad | Ralph de Mortimer |
Mam | Gwladus Ddu |
Priod | Maud de Braose |
Plant | Edmund Mortimer, Isabella Mortimer, Roger de Mortimer, Margaret de Mortimer, Sir Ralph Mortimer, Sir William Mortimer, Sir Geoffrey Mortimer |
Llinach | Teulu Mortimer |
Ganed ef yn 1231, yn fab i Ralph de Mortimer a'i wraig Gwladus Ddu, merch Llywelyn Fawr. Yn 1256 aeth Roger i ryfel yn erbyn Llywelyn ap Gruffydd am feddiant o arglwyddiaeth Gwrtheyrnion, ymladd a fyddai'n parhau yn ysbeidiol hyd farwolaeth yn ddau yn 1282. Ymladdodd dros Harri III, brenin Lloegr yn erbyn Simon de Montfort ym Mrwydr Lewes, pan orchfygwyd y bewnin gan de Montfort. Yn 1265 cynorthwyodd Mortimer i achub y Tywysog Edward o afael de Montfort, a gwnaethant gynghrair yn ei erbyn. Ymladdodd Morimer ym Mrwydr Evesham pan orchfygwyd de Montfort.
Plant
golyguPriododd Mortimer Maud de Braose, un o ferched Gwilym Brewys, yn 1247. Cawsant nifer o blant:
- Ralph Mortimer, bu farw 1276.
- Edmund Mortimer, 2il Farwn Mortimer (1251-1304)
- Isabella Mortimer, bu farw 1292.
- Margaret Mortimer, bu farw 1297.
- Roger Mortimer o'r Waun, bu farw 1326.
- Geoffrey Mortimer
- William Mortimer