Ralph de Mortimer
Un o Arglwyddi'r Gororau ac aelod o deulu grymus y Mortimeriaid oedd Ralph de Mortimer, weithiau Ranulph de Mortimer (cyn 1198 - cyn 2 Hydref, 1246). Roedd yn ail fab i Roger de Mortimer ac Isabel de Ferrers o Gastell Wigmore yn Swydd Henffordd.
Ralph de Mortimer | |
---|---|
Ganwyd | Unknown |
Bu farw | Unknown |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Tad | Roger Mortimer o Wigmore |
Mam | Isabel de Ferriers |
Priod | Gwladus Ddu |
Plant | Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer, Isolt de Mortimer |
Llinach | Teulu Mortimer |
Bywgraffiad
golyguOlynodd ei frawd hynaf fel pennaeth y teulu cyn 23 Tachwedd 1227, ac adeiladodd gestyll Cefnllys a Chnwclas yn 1240.
Yn 1230, priododd Gwladus Ddu, merch Llywelyn Fawr. Cawsant nifer o blant:
- Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer, priododd Maud de Braose ac olynodd ei dad.
- Hugh de Mortimer
- John de Mortimer
- Peter de Mortimer
Llyfryddiaeth
golygu- Remfry, P.M., Wigmore Castle Tourist Guide and the Family of Mortimer (ISBN 1-899376-76-3)
- Ancestral Roots of Certain American Colonists Who Came to America Before 1700 by Frederick Lewis Weis; Lines 132C-29, 176B-28, 28-29, 67-29, 77-29, 176B-29
- A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.) John Edward Lloyd (1911)