Maud de Braose
Uchelwraig Seisnig oedd Maud de Braose, Baroness Mortimer neu Matilda de Braose (1224 – ychydig cyn 23 Mawrth 1301)[1] ac aelod o deulu pwerus de Braos (Cymreigiad: Brewys),[2] a oedd yn berchen llawer o dir Arglwyddiaethau'r Mers. Ei gŵr oedd Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer, milwr enwog a barwn.
Maud de Braose | |
---|---|
Mynedfa adfeilion Castell Wigmore, Swydd Henffordd a fu'n gartef i Maud a Roger Mortimer. | |
Ganwyd | 1224 Cymru |
Bu farw | 23 Mawrth 1301 Swydd Henffordd |
Tad | Gwilym Brewys |
Mam | Eva Marshal |
Priod | Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer |
Plant | Edmund Mortimer, Roger de Mortimer, Isabella Mortimer, Margaret de Mortimer, Sir Ralph Mortimer, Sir William Mortimer, Sir Geoffrey Mortimer |
Llinach | Teulu Mortimer |
Roedd Maud a'i theulu'n deyrngar iawn i frenin Lloegr yn ystod Ail Ryfel y Barwniaid, a chynllwyniodd i ryddhau'r Tywysog Edward o grafangau Simon de Montfort, 6ed iarll Swydd Gaerlŷr.[3]
Plentyndod
golyguCafodd ei geni yng Nghymru yn 1224, yr ail ferch i'r arglwydd William de Braose (neu yn Gymraeg Gwilym Brewys) ac Eva Marshal. Roedd ganddi dair chwaer: Isabella (gwraig Dafydd ap Llywelyn), Eva (gwraig William de Cantilupe) ac Eleanor (gwraig Humphrey de Bohun). Pan oedd yn chwech oed, ar 2 Mai 1230 crogwyd ei thad gan y Tywysog Llywelyn Fawr am iddo gael affêr efo'i wraig Siwan. Ei thaid ar ochr ei mam oedd William Marshal, Iarll 1af Penfro.
Cyfeiriadau
golyguGweler hefyd
golygu- Siwan, drama Saunders Lewis