Jeanette Winterson
Awdur ffuglen wyddonol, o Loegr, yw Jeanette Winterson (ganwyd 27 Awst 1959) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr, nofelydd, newyddiadurwr.
Jeanette Winterson | |
---|---|
Llais | Jeanette Winterston BBC Radio4 Bookclub 4 April 2010 b00rqlc4.flac |
Ganwyd | 27 Awst 1959, 27 Awst 1957 Manceinion, Manceinion |
Man preswyl | Manceinion |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, sgriptiwr, nofelydd, newyddiadurwr, awdur, awdur ffuglen wyddonol, awdur storiau byrion, cynhyrchydd ffilm, awdur plant, rhyddieithwr, dramodydd, awdur teledu, academydd |
Blodeuodd | 2020 |
Adnabyddus am | Oranges Are Not the Only Fruit, Sexing the Cherry, Gut Symmetries, The World and Other Places, The Stone Gods, Art Objects: Essays on Ecstasy and Effrontery, Written on the Body |
Prif ddylanwad | Thomas Malory, T. S. Eliot, Virginia Woolf |
Priod | Susie Orbach |
Gwobr/au | OBE, Gwobr John Llewellyn Rhys, Gwobr E. M. Forster, Gwobr Teledu yr Academi Brydeinig am y Gyfres Ddrama Gorau, Gwobr Llenyddol Lambda ar gyfer Ffuglen Lesbiaidd, Gwobr 100 Merch y BBC, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, CBE |
Gwefan | http://www.jeanettewinterson.com |
Daeth yn enwog am ei llyfr cyntaf, Oranges Are Not the Only Fruit, nofel lled-hunangofiannol am ferch sensitif yn ei harddegau yn gwrthryfela yn erbyn gwerthoedd confensiynol. Mae rhai o'i nofelau eraill wedi archwilio polaredd rhyw a hunaniaeth rywiol. O ddydd i ddydd mae hi'n ddarlledwr ac yn athro ysgrifennu creadigol. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig arall yr ysgrifennodd y mae: Sexing the Cherry, Gut Symmetries, The World and Other Places a The Stone Gods.[1][2][3][4][5]
Magwraeth
golyguGanwyd Winterson ym Manceinion, Lloegr lle'i mabwysiadwyd gan Constance a John William Winterson ar 21 Ionawr 1960. Fe'i magwyd yn Accrington, Swydd Gaerhirfryn, a mynychodd Eglwys Bentecostaidd Elim. Fe’i magwyd i fod yn genhadwr Cristnogol Pentecostaidd, a dechreuodd efengylu ac ysgrifennu pregethau yn chwech oed.[8][9]
Erbyn iddi fod yn 16 oed, cyhoeddodd Winterson ei bod yn lesbiad a gadawodd y cartref.[10] Yn fuan wedi hynny mynychodd Goleg Accrington a Rossendale, a chafodd amryw o swyddi gwahanol tra darllenodd Saesneg yng Ngholeg y Santes Catrin, Rhydychen.[11][12]
Yr awdur
golyguAr ôl iddi symud i Lundain, ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Oranges Are Not the Only Fruit, a enillodd Wobr Whitbread 1985 am Nofel Gyntaf. Addasodd Winterson y nofel ar gyfer y teledu ym 1990.
Anrhydeddau
golyguMae Winterson wedi ennill Gwobr Whitbread am Nofel Gyntaf, Gwobr BAFTA am y Ddrama Orau, Gwobr John Llewellyn Rhys, Gwobr E. M. Forster, Gwobr Lenyddol St. Louis, ac mae'n enillydd Gwobr Lenyddol Lambda ddwywaith. Mae hi wedi cael ei gwneud yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) gan frenhines Lloegr, yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE), ac fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol.
Gwobrau
golygu- 1985: Gwobr Whitbread am y Nofel Gyntaf, am Oranges Are Not the Only Fruit
- 1987: Gwobr John Llewellyn Rhysam The Passion
- 1989: Gwobr E. M. Forster am Sexing the Cherry[13]
- 1992: Gwobr BAFTA am y Ddrama Orau, am Oranges Are Not the Only Fruit cyfres deledu]][14]
- 1994: Winner, Lesbian Fiction category, Lambda Literary Awards am Written on the Body
- 2006: OBE am "ei chyfraniad i lenyddiaeth"
- 2013: Winner, Lesbian Memoir or Biography category, Lambda Literary Awardsm, am Why Be Happy When You Could Be Normal?[15]
- 2014: St. Louis Literary Award[16][17]
- 2016: Un o 100 Women (BBC).[18]
- 2016: Etholwyd hi'n Fellow of the Royal Society of Literature[19]
- 2018: Cyflwynodd y 42fed 'Darlith Richard Dimbleby fel rhan o ddathliad 100 mlynedd o Etholfraint Menywod yn y DU.[20]
- 2018: CBE yn 2018.[21]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2015. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_389. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018. http://www.nytimes.com/2012/03/25/books/review/jeanette-wintersons-new-memoir.html. http://www.nytimes.com/interactive/arts/art-shock.html#/#shockme. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 16 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://www.nndb.com/lists/515/000063326/. "Jeanette Winterson". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018. "Jeanette Winterson". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jeanette Winterson". "Jeanette Winterson". "Jeanette Winterson". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018. http://www.smh.com.au/entertainment/books/catching-up-with-the-past-20111208-1ojpg.html. http://www.theguardian.com/books/2008/jun/10/jeanettewinterson. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018.
- ↑ Man gwaith: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018.
- ↑ Galwedigaeth: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018. http://mak.bn.org.pl/cgi-bin/KHW/makwww.exe?BM=01&IM=04&NU=01&WI=A26335335. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018. http://www.cornerhouse.org/film/film-events/jeanette-winterson-in-conversation-with-screenwriter-abi-morgan. JSTOR. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018. http://news.bbc.co.uk/mobile/bbc_news/entertainment/646/64642/story6464297.wml. http://www.bbc.co.uk/news/entertainment-arts-22622194. http://www.bbc.co.uk/news/entertainment-arts-27906653. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 16 Medi 2018. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022.
- ↑ Brooks, Libby (2 Medi 2000). "Power surge". The Guardian. London.
- ↑ International Journal of Sexuality and Gender Studies, Volume 6, Number 4 Archifwyd 2020-04-06 yn y Peiriant Wayback. SpringerLink. Retrieved on 26 Awst 2011.
- ↑ Patricia Juliana Smith (24 Gorffennaf 2006). "Winterson, Jeanette (b. 1959)". glbtq Encyclopedia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-27. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2008.
- ↑ Winterson profile Archifwyd 25 Mawrth 2012 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Amazon sorry for book sales error which hit Accrington author". lancashiretelegraph.co.uk. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2016.
- ↑ "Harcourt Publishers Interview with Jeanette Winterson, Lighthousekeeping" Archifwyd 12 Mai 2013 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Television in 1991". awards.bafta.org. Cyrchwyd 2019-01-12.
- ↑ "25th annual Lambda Literary Award winners announced" Archifwyd 2013-06-10 yn y Peiriant Wayback. LGBT Weekly, 4 Mehefin 2013.
- ↑ "Saint Louis University Libraries". lib.slu.edu. Cyrchwyd 2019-01-12.
- ↑ Cooperman, Jeannette (16 Medi 2014). "A Conversation With Jeanette Winterson". St. Louis Magazine. Cyrchwyd 2019-01-12.
- ↑ "BBC 100 Women 2016: Who is on the list?". BBC. 21 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2016.
- ↑ "Jeanette Winterson". The Royal Society of Literature. Cyrchwyd 26 Ebrill 2018.
- ↑ "Don't Protect Me - Respect Me". Richard Dimbleby Lecture. Episode 42. 6 Mehefin 2018. BBC One. https://www.bbc.co.uk/programmes/b0b61v25.
- ↑ "The Queen's Birthday Honours List 2018". gov.uk. Cyrchwyd 8 Mehefin 2018.