Rhos Mair
Rhos Mair | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Lamiaceae |
Genws: | Rosmarinus |
Rhywogaeth: | R. officinalis |
Enw deuenwol | |
Rosmarinus officinalis L. |
Perlysieuyn blodeuol, lluosflwydd persawrus yw rhos Mair,[1] rhosmari[2] neu ysbwynwydd[3] (Lladin: Rosmarinus officinalis) sy'n cael ei ddefnyddio i roi blas ar fwyd ac oherwydd ei rinweddau meddygol. Mae'n perthyn i deulu'r mintys (Lamiaceae) ac mae ganddo ddail nodwyddog, bytholwyrdd.
Mae llawer math gwahanol i'w gael, rhai'n tyfu'n llorwedd ac eraill ar i fyny hyd at 1.5 metr o uchder. Mae'r dail rhwng 2 – 4 cm o hyd 2 – 5 mm o led a'u lliw'n wyrdd (uchod) a gwyn wyneb isaf a rheiny yn flewog. Yn y gaeaf neu'r gwanwyn mae'r blodau'n ymddangos a gall eu lliwiau nhw amrywio: gwyn, pinc, porffor neu las.
Rhinweddau meddygol
golyguMae rhosmari'n cael ei ddefnyddio'n allanol fel shampŵ i wella'r lliw a'r cyflwr. Arferai'r Rhufeiniaid ei ddefnyddio a'i gyfri'n gysegredig oherwydd y rhinweddau hyn. Mae hefyd yn gwella gwynegon (cricmala), niwralgia, y bendro, nerfusrwydd fel gorguro'r galon a phoenau'r misglwyf.[4]
Mae ymchwil diweddar wedi dangos y gall gynorthwyo'r 'cof'.[5] Bu'n symbol o 'gof hir' ers canrifoedd ac mewn rhai rhannau o Ewrop caiff ei daflu ar yr arch i 'gofio' am y marw. Dywedd Ophelia hefyd yn Hamlet: There's rosemary, that's for remembrance.(Shakespeare: Hamlet, iv. 5.)
Llenyddiaeth
golyguCeir sawl cyfeiriad ato mewn llenyddiaeth gan gynnwys yr hen benillion.
- Ar lan y môr mae carreg wastad,
- Lle bum yn siarad gair a’m cariad,
- O amgylch hon fe dyf y lili
- Ac ambell sbrigyn o rosmari.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ rhos%20Mair. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
- ↑ rhosmari. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
- ↑ ysbwynwydd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
- ↑ Gwefan Saesneg 'Informa Healthcare'