Rosser Beynon (Asaph Glan Taf)
Roedd Rosser Beynon (Asaph Glan Taf) (Mawrth, 1810 — 3 Ionawr, 1876) yn gerddor Cymreig.[1]
Rosser Beynon | |
---|---|
Ganwyd | 1810 ![]() Glyn-nedd ![]() |
Bu farw | 3 Ionawr 1876 ![]() Penydarren ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cerddor, llyfrwerthwr ![]() |
Cefndir
golyguGanwyd Asaph Glan Taf yng Nglyn-nedd, Morgannwg, yn fab John Beynon ac Elizabeth Rosser ei wraig. Dydy union ddyddiad ei eni ddim yn hysbys ond cafodd ei fedyddio yn Eglwys Blwyf Glyncorrwg ar 25 Mawrth 1810.[2] Roedd yn frawd i'r cerddor John Beynon (leuan Lwyd) ac yn ewythr i'r Parch David J. Beynon, Rhiwabon. Pan oedd Asaph tua 4 mlwydd oed symudodd y teulu i Ferthyr Tudful. Cafodd ei addysgu mewn ysgol ddyddiol dan ofalaeth gŵr o'r enw George Williams.
Gyrfa
golyguYn 8 mlwydd oed ymadawodd Asaph a'r ysgol i weithio yng ngwaith haearn Dowlais. Fe gododd i safle is-oruchwyliwr yn y gwaith cyn ymadael a'r gwaith i weithio fel gwerthwr llyfrau ar ei liwt ei hun.[3] Methiant bu'r busnes gwerthu llyfrau a symudodd i'r gwaith glo fel goruchwyliwr ac wedyn fel asiant.
Cerddor
golyguNi chafodd Asaph Glan Taf na Ieuan Lwyd, ei frawd, unrhyw hyfforddiant cerddorol ffurfiol, ond gan fod y ddau yn frwdfrydig dros ganu cynulleidfaol cawsant bob cefnogaeth a chymorth i ddatblygu gan y capeli a chorau lleol ym Merthyr a Dowlais. Daeth Ieuan yn gerddor medrus ac Asaph yn gerddor rhagorol. Roedd Asaph yn arweinydd corau a chymanfaoedd, yn arbennig cymanfaoedd dirwest.[4] Roedd yn athro gerdd ac yn cael ei gydnabod fel "tad cerddoriaeth Morgannwg", gan ei fod wedi hyfforddi cymaint o gerddorion, arweinwyr a chodwyr canu'r sir.[5] Roedd yn feirniad cystadlaethau Eisteddfodol, mawr ei barch, trwy Gymru gyfan. Ei gyfraniad pwysicaf i gerddoriaeth ei ddydd oedd cyhoeddiad ei gampwaith Telyn Seion. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf o'r gwaith ym 1845, a'r holl rannau yn un llyfr yn 1848. Ceir yn y casgliad 20 o donau o'i waith ei hun a thonau gan gyfansoddwyr eraill. Telyn Seion oedd y llyfr gyntaf erioed i gynnwys nodau amser i fetronom gyda'r gerddoriaeth.
Teulu
golyguPriododd Mary Lewis ym 1833 a chawsant dau fab a thair merch.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref ym Mhenydarren o lid ar yr ysgyfaint yn 65 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cefn Coed y Cymmer, Merthyr.[6] Ar ei garreg fedd mae hir a thoddaid gan Watcyn Wyn er cof amdano:
“ |
|
” |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "BEYNON, ROSSER ('Asaph Glan Tâf'; 1811 - 1876), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-02-07.
- ↑ Gwasanaeth archifau Cymru, Cofrestri plwyf Morgannwg, eglwys Glyncorrwg, 1810
- ↑ "Newyddion Cymreig - Y Dydd". William Hughes. 1876-01-14. Cyrchwyd 2020-02-07.
- ↑ "EISTEDDFOD CYMRODORION DIRWESTOL ABERDAR - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1860-09-12. Cyrchwyd 2020-02-07.
- ↑ "MARWOLAETH ASAPH GLAN TAF - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1876-01-07. Cyrchwyd 2020-02-07.
- ↑ "Y DIWEDDAR ASAPH GLAN TAF - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1876-01-21. Cyrchwyd 2020-02-07.
- ↑ Cymru Cyf. 34, 1908; Tud. 226 adalwyd 7 Chwefror 2020