Hir-a-thoddaid
(Ailgyfeiriad o Hir a thoddaid)
Un o'r pedwar mesur ar hugain ydy'r hir-a-thoddaid sy'n fesur caeth; fersiwn degsill o'r gwawdodyn hir ydyw gan fod y llinellau'n ddegsill yn hytrach na naw sillaf. Toddaid hir y gelwir y ddwy linell olaf mewn hir-a-thoddaid.
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Mae diwedd pob llinell yn odli.
Dyma ddwy enghraifft allan o "Awdl Merch yr Amserau" gan Robin Llwyd ab Owain:
- Mae fy nghân ifanc, mae fy nghynefin
- Ynot a rhythm borewynt drwy eithin,
- Wyt gyffro Giro mewn jins - sy'n datod.
- I 'mwa hynod wyt ffidil Menuhin.
- Lleuad y nos a fu'n tywallt drosot
- A'i rhaeadr ieuanc o gytser drwot,
- Minnau yn fflam ohonot, - Erin f'oes;
- Rhannaf fy einioes, serennaf ynot.
Fel arfer, ceir chwe llinell mewn hir-a-thoddaid, dwy linell degsill ychwanegol ar y dechrau.
Un o brif feistri'r mesur hwn oedd y diweddar Brifardd ac Archdderwydd Dic Jones. Dyma ei hir-a-thoddaid sy'n cloi'r awdl "Cynhaeaf", a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1966:
- Tra bo dynoliaeth fe fydd amaethu
- A chyw hen linach yn ei olynu,
- A thra bo gaeaf bydd cynaeafu,
- A byw greadur tra bo gwerydu,
- Bydd ffrwythlonder tra pery - haul a gwlith,
- Yn wyn o wenith rhag ein newynu.
Neu ran o'i awdl goffa, "Galarnad", i'w ferch Esyllt a fu farw'n ifanc:
- Nid yw yfory yn difa hiraeth
- Nac ymwroli'n nacau marwolaeth.
- Fe ddeil pangfeydd ei alaeth - tra bo co',
- Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth.